Mihangel
Oddi ar Wicipedia
Un o'r saith archangel yn y traddodiad Cristnogol yw Mihangel. Gyda Gabriel, Raphael, Uriel ac eraill, mae'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac yn barod i'w hanfon fel ei negesyddion i'r dynolryw. Gyda Gabriel mae'n gwarchod drysau eglwysi rhag y Diafol. Fe'i derbynnir hefyd fel un o'r angylion gan Iddewon a Mwslemiaid.
Cysegrwyd nifer fawr o eglwysi yng Nghymru i Fihangel; gweler Llanfihangel am restr o bentrefi, cymunedau a phlwyfi sy'n dwyn ei enw.
Mae'r Eglwys Gatholig a rhai eglwysi eraill yn ystyried fod Mihangel yn sant hefyd. Daeth yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Ef yw nawddsant dinas Brwsel a nawddsant nifer o alwedigaethau, yn cynnwys milwyr a phobwyr.
Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Coran i'r Proffwyd Mohamed.
[golygu] Gweler hefyd
- Llanfihangel, rhestr o leoedd yng Nghymru a enwir ar ôl Mihangel