Coran
Oddi ar Wicipedia
Rhan o gyfres ar |
|
---|---|
Athrawiaeth |
|
Arferion |
|
Cyffes Ffydd · Gweddïo |
|
Hanes & Arweinwyr |
|
Ahl al-Bayt · Sahaba |
|
Testunau & Deddfau |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
|
Sunni · Shi'a | |
Diwylliant & Cymdeithas |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
|
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
|
Islamophobia · Termau Islamig |
|
Y Coran neu'r Qur’ān (Arabeg: القرآن al-qur'ān, yn llythrennol "yr adroddiad"; sy'n cael ei ysgrifennu sawl ffordd, e.e. Qur'an neu Al-Qur'an, Koran yn Saesneg, Coran yn Gymraeg a Ffrangeg) yw testun sanctaidd canolog Islam. Cred Mwslimiaid fod y Coran yn llyfr sy'n rhoi arweiniad dwyfol i'r dynolryw, ac ystyrient fod y testun (yn yr Arabeg wreiddiol) yn cynrychioli datguddiad dwyfol olaf Duw (Allah). Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd y Coran ei ddatguddio i'r Proffwyd Muhammad gan yr angel Gabriel yn ysbeidiol dros gyfnod o 23 o flynyddoedd.
Mae Muslimiaid yn gweld y Coran fel yr olaf mewn cyfres o negeseuon dwyfol sy'n cychwyn gyda'r rhai a ddatguddiwyd i Adda, a ystyrir yn broffwyd cyntaf Islam, ac a barhawyd gyda'r Suhuf-i-Ibrahim (Sgroliau Abraham), y Tawrat (Torah neu ran gyntaf yr Hen Destament), y Zabur (Llyfr y Salmau), ac yn olaf yr Injil (Efengyl, sy'n cyfateb i rannau o'r Testament Newydd). Er nad yw'r llyfrau hynny yn cael eu cynnwys yn y Coran ei hun, caent eu hadnabod ynddo fel testunau o darddiad dwyfol.
Yn ogystal, mae'r Coran yn cyfeirio at sawl digwyddiad a geir yn yr ysgrythurau Iddewig a Christnogol, gan ailadrodd yr hanesion mewn ffordd sy'n gwahaniaethu rhywfaint o'r hyn a geir yn y testunau hynny, a gan grybwyll yn ogystal, yn llai manwl, ddigwyddiadau eraill ynddynt.
Un gwahaniaeth mawr rhwng y Coran a'r Beibl a'r Torah yw'r ffaith nad ydyw fel rheol yn cynnig disgrifiadau manwl o ddigwyddiau; ceir y pwyslais i gyd ar arwyddocad ysbrydol a moesol digwyddiadau yn hytrach na threfn gronolegol neu naratifol. Ceir manylion llawnach o lawer am ddigwyddiadau hanesyddol neu led-hanesyddol yn yr Hadithau gan Muhammad ac yn adroddiadau'r Sahabah (Cydymdeithion Muhammad).
Mae penillion y Coran, sydd mewn rhyddiaith odledig, yn deillio o'r traddodiad llafar, a chawsant eu cadw ar gof gan gydymdeithion Muhammad a'u trosglwyddo ar lafar am genhedlaeth neu ddwy. Yn ôl y traddodiad Sunni, coladwyd y Coran a'i gofnodi ar femrwn yn amser y Califf Abu Bakr, dan arweiniad Zayd ibn Thabit Al-Ansari. Cafodd y llawysgrif(au) ei throsglwyddo wedyn ar ôl marwolaeth Abu Bakr, ond mae'r manylion yn amrywio gyda fersiwn y Shia yn wahanol i fersiwn y Sunni.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Cyfieithiad Cymraeg
Fel yn achos y Beibl, ceir nifer o argraffiadau o'r Coran mewn sawl iaith, ond hyd yn hyn ni cheir y testun cyfan yn y Gymraeg. Ceir detholiad a gyhoeddir gan y Gymuned Fwslim Ahmaddiya ym Mhrydain yn:
- Adnodau detholedig o'r Quran Sanctaidd (Islam International Publications, Llundain, 1988). ISBN 1 85372 131 X
[golygu] Astudiaethau
- Al-Azami, M. M. The History of the Qur'anic Text from Revelation to Compilation, UK Islamic Academy: Leicester 2003.
- Gunter Luling. A challenge to Islam for reformation: the rediscovery and reliable reconstruction of a comprehensive pre-Islamic Christian hymnal hidden in the Koran under earliest Islamic reinterpretations. New Delhi: Motilal Banarsidass Publishers 2003. (580 Seiten, lieferbar per Seepost). ISBN 81-2081952-7
- Luxenberg, Christoph. The Syro-Aramaic Reading Of The Koran: a contribution to the decoding of the language of the Qur'an, Berlin, Verlag Hans Schiler, 2007. ISBN 3-89930-088-2
- McAuliffe, Jane Damen. Quranic Christians : An Analysis of Classical and Modern Exegesis, Cambridge University Press, 1991. ISBN 0-521-36470-1
- McAuliffe, Jane Damen (gol.). Encyclopaedia of the Qur'an, Brill, 2002-2004.
- Puin, Gerd R. "Observations on Early Qur'an Manuscripts in Sana'a," yn The Qur'an as Text, ed. Stefan Wild, , E.J. Brill 1996.
- Rahman, Fazlur. Major Themes in the Qur'an, Bibliotheca Islamica, 1989. ISBN 0-88297-046-1
- Stowasser, Barbara Freyer. Women in the Qur'an, Traditions, and Interpretation, Oxford University Press; ail argraffiad (1996), ISBN 0-19-511148-6
- Wansbrough, John. Quranic Studies, Oxford University Press, 1977
- Watt, W. M., a R. Bell. Introduction to the Qur'an, Edinburgh University Press, 2001. ISBN 0-7486-0597-5