Iddewiaeth
Oddi ar Wicipedia
Crefydd undduwiaeth yw Iddewiaeth, â tua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang. Daw'r gair Iddewiaeth o'r gair Groeg Ιουδαϊσμός a ddaw o'r Hebraeg יהודה, Iehŵda. Hi yw crefydd y bobl Iddewig. Sylfaen y grefydd yw'r llyfrau o'r Beibl Hebraeg y Tanach, sy'n cynnwys llyfrau'r Torah, Nevi'im a Ketuvim. Ceir esboniad pellach o hyn yn y Talmud.
Yn 2007, amcangyfrifwyd poblogaeth Iddewig y byd yn 13.2 miliwn, gyda 41% ohonynt yn byw yn Israel a'r 59% arall yn y ddihangfa.
Yn ôl traddodiad, mae'r hanes Iddewig yn dechrau gyda'r Cyfamod rhwng Duw ac Abraham (tua. 2000 C.C), sef patriarch a chyndad y bobl Iddewig. Iddewiaeth yw un o'r crefyddau hynaf mewn bodolaeth heddiw. Mae athrawiaethau ac hanes Iddewig wedi dylanwadu'n fawr ar grefyddau eraill gan greu'r sylfaen ar gyfer y crefyddau Abrahameg, sef Cristnogaeth ac Islam.
Mae Iddewiaeth yn wahanol iawn i nifer o grefyddau cyfoes mor bell â ni welir awdurdod yn un person neu grŵp, ond yn hytrach mewn testunau sanctaidd, traddodiadau a Rabbïau addysgiedig sy'n dehongli'r testunau a chyfreithiau. Drwy'r oesoedd mae Iddewiaeth wedi glynu at nifer o egwyddorion crefyddol, y mwyaf pwysig ohonynt yw'r cysyniad o un Duw hollalluog a hollwybodol a greodd y bydysawd a sy'n parhau i'w reoli. Yn ôl cred Iddewig draddodiadol, gwnaeth y Duw a greodd y byd gadarnhau cyfamod gyda'r Israeliaid drwy Moses ar Fynydd Sinai yn ffurf y Torah ysgrifenedig ac ar lafar. Credent taw disgynyddion yr Israeliaid yw holl Iddewon y byd. Mae Iddewiaeth ymarferol draddodiadol wedi'i selio ar yr astudiaeth a chadwraeth rheolau a gorchmynion Duw fel y'u hysgrifennwyd yn y Torah a'u hesbonir yn y Talmud.
[golygu] Gweler hefyd