Cross Inn
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Cross Inn. Mae'n gorwedd ar yr A486 tuag un filltir a hanner i'r de-ddwyrain o dref fechan Ceinewydd. Mae ar lan ffrwd fechan, un o ledneintiau Afon Soden, sy'n llifo i'r môr i'r gogledd o Gwmtydi, tua dwy filltir i'r gorllewin ar lan Bae Ceredigion.
Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Caerwedros.
Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Caerwedros, Llwyndafydd a Nanternis i'r gorllewin, Synod Inn i'r de, a Llanarth i'r gogledd-ddwyrain.