Llwyndafydd
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Llwyndafydd (weithiau Llwyn-dafydd). Mae'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o dref fechan Ceinewydd ac yn rhan o gymuned Llandysiliogogo. Mae ar lan Afon Ffynnon Ddewi sy'n llifo i'r môr ger Cwmtydi, tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin ar lan Bae Ceredigion.
Credir mai yn Llwyndafydd y bu canolfan gynharaf cwmwd Caerwedros, er bod pentref Caerwedros, i'r gogledd o Lwyndafydd, yn dwyn enw'r hen gwmwd.
Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Caerwedros a Nanternis.