Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Ogam - Wicipedia

Ogam

Oddi ar Wicipedia

Y llythrennau Ogham
Y llythrennau Ogham

Roedd Ogam neu Ogham yn sgript a ddefnyddid o'r 4edd ganrif hyd y 10fed ganrif, i ysgrifennu Gwyddeleg yn bennaf.

Mae'r arysgrifau Ogam "clasurol" i'w cael yn Iwerddon, Cymru, Yr Alban ac Ynys Manaw, gydag ychydig yn Lloegr, a'r mwyafrif yn dyddio o'r bumed a'r chweched ganrif. Maent wedi eu hysgrifennu mewn Hen Wyddeleg, ond gan mai enwau personau yn unig yw llawer o'r arysgrifau, nid oes modd cael llawer o wybodaeth ieithyddol ohonynt.

Credir fod y sgript wedi ei dyfeisio tua diwedd y bedwaredd ganrif neu ddechrau'r bumed, efallai gan Gristionogion cynnar yn ne Iwerddon, lle mae arysgrifau ogam yn arbennig o niferus yn y siroedd arfordirol o Kerry hyd Waterford. Awgrym arall yw fod y sgript wedi ei dyfeisio gan Wyddelod yn byw yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif, oedd wedi dod i gysylltiad a'r wyddor Ladin. Yn yr Alban mae nifer o arysgrifau Ogham na wyddir beth yw eu hiaith; maen'n bosibl bod nifer ohonynt yn enghreifftiau o Bicteg, iaith y Pictiaid, ac yn ddiweddarach na'r enghreifftiau Cymreig a Gwyddelig. Yn ôl chwedlau Iwerddon, dyfeisiwyd Ogam, a'r iaith Wyddeleg, yn fuan ar ôl cwymp Tŵr Babel.

Ffurfir y llythrennau gan linellau, un ai ar ymyl carreg neu ar draws llinell syth wedi ei thorri yn y garreg. Darllenir o'r ochr chwith ar waelod y garreg. Mae'r wyddor yn cynnwys ugain llythyren (feda), wedi eu trefnu yn bedair cyfres (aicmí).

Yng Nghymru mae'r mwyafrif mawr o'r arysgrifau Ogam yn y de-orllewin, lle roedd poblogaeth Wyddelig sylweddol yn y cyfnod yma. Maent yn llawer prinnach tu allan i'r ardal yma, ond ceir grwp ohonynt yn nhiriogaeth hen deyrnas Brycheiniog ac ambell un yn y gogledd, er enghraifft un gerllaw Bryncir yng Ngwynedd, sy'n ddwyieithog, Ogam a Lladin.

[golygu] Llythrennau

Llythrennau Ogam o Lyfr Ballymote (1390)
Llythrennau Ogam o Lyfr Ballymote (1390)

Dyma rai o enwau'r llythrennau Ogam a'u hystyron:

  • Beith, Hen Wyddeleg Beithe : "bedwen".
  • Luis, Hen Wyddeleg Luis efallai planhigyn.
  • Fearn, Hen Wyddeleg Fern : "gwernen" (*wernā mewn Gwyddeleg Gyntefig).
  • Sail, Hen Wyddeleg Sail : "helygen".
  • Nion, Hen Wyddeleg Nin : efallai "fforch" .
  • Uath, Hen Wyddeleg Úath : efallai "ofn, arswyd".
  • Dair, Hen Wyddeleg Dair : "derwen".
  • Tinne, Hen Wyddeleg Tinne : efallai "bar o fetel".
  • Coll, Hen Wyddeleg Coll : "collen".
  • Ceirt, Hen Wyddeleg Cert : "perth".
  • Muin, Hen Wyddeleg Muin: ansicr.
  • Gort, Hen Wyddeleg Gort : "cae".
  • nGéadal, Hen Wyddeleg Gétal efallai "lladd"
  • Straif, Hen Wyddeleg Straiph : swlffwr.
  • Ruis, Hen Wyddeleg Ruis : "coch".
  • Ailm, Hen Wyddeleg Ailm : ansicr, efallai "pinwydden".
  • Onn, Hen Wyddeleg Onn : "onnen".
  • Úr, Hen Wyddeleg Úr :"pridd".

[golygu] Darllen pellach

  • Damian McManus, A Guide to Ogam (An Sagart, Coleg Padrig Sant, Maynooth, 1997). Astudiaeth academaidd drylwyr gyda llyfryddiaeth lawn.
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com