Yr Almaen
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Einigkeit und Recht und Freiheit (Almaeneg: "Undeb a chyfiawnder a rhyddid”) |
|||||
Anthem: Y trydydd pennill o Das Lied der Deutschen | |||||
Prifddinas | Berlin | ||||
Dinas fwyaf | Berlin | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Almaeneg 1 | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth ffederal | ||||
• Arlywydd • Canghellor |
Horst Köhler Angela Merkel |
||||
Hanes gwladwriaethol • Yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd • Ymerodraeth Almaenaidd • Gweriniaeth ffederal • Uniad |
843 (Cytundeb Verdun) 18 Ionawr 1871 23 Mai 1949 3 Hydref 1990 |
||||
Esgyniad i'r UE | 25 Mawrth, 1953 (Gorllewin yr Almaen) 31 Hydref, 1990 (Dwyrain yr Almaen) |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
357,050 km² (63fed) 2.416 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
82,689,000 (14fed) N/A 2000/km² (34fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $2,521,699 miliwn (5ed) $30,579 (17fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.930 (20fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Ewro (€) 2 (EUR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .de | ||||
Côd ffôn | +49 |
||||
1 Cydnabyddir a gwarchodir yr ieithoedd lleiafrifol Daneg, Sorbeg, Romaneg a Ffrisieg. Gwarchodir Isel Almaeneg (Plattdeutsch) gan yr Undeb Ewropeaidd. 2 Cyn 1999: Deutsche Mark |
Gweriniaeth Ffederal yr Almaen neu'r Almaen (Almaeneg: Bundesrepublik Deutschland ynganiad Almaeneg ?/i ). Gweriniaeth ffederal yng nghanol Ewrop yw'r Almaen. Mae'n ffinio â Môr y Gogledd, Denmarc, a'r Môr Baltig (Almaeneg: Ostsee, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl yn y dwyrain, y Swistir ac Awstria yn y de, a Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Berlin yw'r brifddinas.
Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaeneg i her chwyldroadol y Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen i mewn i’r ugeinfed ganrif.
[golygu] Hanes
Prif erthygl: Hanes yr Almaen
Y cofnod cyntaf o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig yn byw yn y diriogeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o Afon Rhein yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn 9 OC. gorchfygwyd byddin Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus gan gynghrair o lwythau Almaenig dan Arminius yn Mrwydr Fforest Teutoburg. Dinistriwyd tair lleng Rufeinig yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.
Sefydlwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y 9fed ganrif, a pharhaodd hyd 1806. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys Awstria, Slovenia, Gweriniaeth Tsiec, gorllewin Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd, dwyrain Ffrainc, y Swistir a rhan o ogleddyr Eidal. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y 16eg ganrif, a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".
Ffurfiwyd y Conffederasiwn Almaenig yn 1815, yna ffurfiwyd Ymerodraeth yr Almaen yn 1871, gydag Otto von Bismarck yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a ffôdd yr ymerawdwr Wilhelm II i'r Iseldiroedd.
Sefydlwyd Gweriniaeth Weimar yn 1919, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd Cytundeb Versailles. Yn 1933 daeth Adolf Hitler yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd y Drydedd Reich. Arweiniodd hyn at yr Ail Ryfel Byd 1939 - 1945. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd 1990, pan ad-unwyd y wlad.
[golygu] Daearyddiaeth
Prif erthygl: Daearyddiaeth yr Almaen
Ac eithrio Afon Donaw yn y de, mae afonydd yr Almaen yn llifo tua'r Môr Tawch a'r Môr Baltig, gan gynnwys Afon Rhein, Afon Elbe, Afon Weser ac Afon Ems, sy'n llifo tua'r gogledd.
Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:
- Berlin 3.4 miliwn
- Hamburg 1.75 miliwn
- München 1.3 miliwn
- Cwlen (Köln) 0.98 miliwn
- Frankfurt am Main 0.65 miliwn
[golygu] Taleithiau
Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land):
- Baden-Württemberg
- Bafaria
- Berlin
- Brandenburg
- Bremen
- Hamburg
- Hessen
- Mecklenburg-Vorpommern
- Niedersachsen
- Nordrhein-Westfalen
- Rheinland-Pfalz
- Saarland
- Sachsen
- Sachsen-Anhalt
- Schleswig-Holstein
- Thüringen
|
|
---|---|
Aelodau | Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithuania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
Ymgeiswyr | Albania · Croatia · Georgia · Gweriniaeth Macedonia |
|
|
---|---|
Aelodau arhosol | Yr Almaen · Canada · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Ffrainc · Japan · Rwsia · Yr Unol Daleithiau |
Cynrychiolaethau ychwanegol | Yr Undeb Ewropeaidd |