Y Deyrnas Unedig
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Dieu et mon droit (Arwyddair brenhinol; Ffrangeg: Duw a fy hawl) |
|||||
Anthem: God Save The Queen | |||||
Prifddinas | Llundain | ||||
Dinas fwyaf | Llundain | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Dim. Saesneg ydyw de facto;
Mae'r Gymraeg a Gaeleg yr Alban yn mwynhau statws cyfartal â'r Saesneg yng Nghymru a'r Alban yn ôl eu trefn. |
||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||||
• Brenhines • Prif Weinidog |
Elisabeth II Gordon Brown |
||||
Ffurfio - Undeb |
1 Ionawr 1801 |
||||
Esgyniad i'r UE | 1 Ionawr, 1973 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
244,820 km² (76ain) 1.34 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
58,789,194 (21ain) 60,209,500 243/km² (48fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $1.833 biliwn (6fed) $30,470 (18fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.939 (14fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Punt Sterling (GBP ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
GMT (UTC+0) BST (UTC+1) |
||||
Côd ISO y wlad | .uk 1 | ||||
Côd ffôn | +44 |
||||
1 ond ISO 3166-1 (.gb) oes GB |
Mae Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)) yn cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a thalaith Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i amgylchynnir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iwerydd. Hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol, mae Gwledydd Dibynnol y Goron, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Mae Lloegr wedi bod yn wlad unedig ers y 10ed ganrif. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers Statud Rhuddlan ym 1284, yn rhan o Deyrnas Lloegr at bwrpasau deddfwriaethol trwy Ddeddfau Uno 1536. Yn Neddf Unoliaeth 1707 cytunodd teyrnasoedd Lloegr a'r Alban i unoliaeth barhaol fel Teyrnas Prydain Fawr (er iddynt rannu'r un brenin er 1603). Ym 1801, cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd de Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.
Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y 19eg ganrif mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiad democratiaeth seneddol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym myd gwyddoniaeth. Yn anterth ei grym teyrnasai'r Ymerodraeth Brydeinig dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Rhyfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau a'r Ewrop fodern a llewyrchus. Serch hynny, er bod y DU yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, mai gwahaniaeth barn ynghylch cryfhau'r cysylltiad gyda'r gwrthwynebiad yn gryfach yn Lloegr. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae Tŷ'r Arglwyddi wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydliwyd hefyd senedd yn yr Alban. Ystyrir hefyd cynlluniau ar gyfer cynulliad annibynnol ar gyfer Lloegr. Mae mudaid Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol.
Mae'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Gymanwlad, Undeb Ewrop a Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gyda phŵer gwaharddiad.
Gweler hefyd: Brenhinoedd a brenhinesau'r Deyrnas Unedig; Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon; Hanes Cymru; Hanes Iwerddon; Hanes yr Alban; Hanes Lloegr.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Mae'r Deyrnas Unedig (neu'r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio fersiwn arall ar yr enw yn y Gymraeg) yn frenhiniaeth gyfansoddiadol. Mae'r llywodraeth yn gweithredu yn enw'r Frenhines ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr. Llundain yw prifddinas y DU a Lloegr a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y Frenhines Elisabeth II yw pennaeth y wladwriaeth ac fe'i coronwyd ym 1953, wedi iddi esgyn i'r orsdd ym 1952. Ar y cyfan y mae'n cyflawni dyletswyddau seremonïol, a'r Prif Weinidog sy'n rheoli'r wlad mewn gwirionedd.
[golygu] Gwledydd, Rhanbarthau, Siroedd, ac Ardaloedd
Mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad - Yr Alban, Cymru, Lloegr - a thalaith Gogledd Iwerddon, sydd yn eu tro yn cynnwys yr israniadau canlynol:
- Israniadau Lloegr, Rhanbarthau Lloegr
- Awdurdodau unedol yr Alban
- Awdurdodau Unedol Cymru, Rhanbarthau Cymru
- Israniadau Gogledd Iwerddon
Mae Lloegr wedi ei rhannu yn naw Rhanbarth Swyddi'r Llywodraeth - Gogledd Dwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, Llundain Fwyaf, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr. Mae i bob rhanbarth ei Siroedd a/neu Siroedd Metropolitan a/neu awdurdodau unedol, ac eithrio Llundain a rennir yn fwrdeisdrefi.
Mae'r Alban yn cynnwys 32 cyngor. Mae Cymru yn cynnwys 22 Awdurdod Unedol, sef 10 Bwrdeistref Sîr, 9 o Siroedd, a 3 Dinas. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sîr.
Yn ogystal mae nifer o ddibynyddion gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler gwladfa goronol.
Ni chyfrir Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel yn rhanbarthoedd y Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu faterion allanol.
Rhennir brenhines y Deyrnas Unedig yn symbolaidd gyda 16 o wledydd penadurol eraill, a adnabyddir gyda'i gilydd fel Teyrnasoedd y Gymanwlad, er fod gan Brydain Fawr ddylanwad gwleidyddol bychan dros y cenedlaethau annibynnol hyn.
Erthyglau eraill: Dinasoedd y Deyrnas Unedig, Trefydd y Deyrnas Unedig.
[golygu] Daearyddiaeth
Mae'r rhannau helaeth o dir Lloegr yn fryniog, ond mae'r wlad yn fwy mynyddig yn y gogledd; mae'r llinell rhwng y tiroedd hyn yn rhedeg rhwng yr afonydd Tees ac Exe. Afonydd Tafwys a Hafren yw prif afonydd Lloegr (er bod yr ail yn tarddu ger Pumlumon yng Nghymru); mae'r prif ddinasoedd yn cynnwys Llundain, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Lerpwl, Leeds, Bryste a Newcastle upon Tyne. Ger Dofr mae Twnel Môr Udd yn cysylltu'r Deyrnas Unedig a Ffrainc.
Mae Cymru yn wlad fynyddig gan mwyaf: yr Wyddfa yw'r copa uchaf, gyda uchder o 1,085 m uwch lefel y môr, ac mae'r mynyddoedd mawr eraill yn cynnwys Bannau Brycheiniog, Pumlumon, Y Berwyn, Y Carneddau a'r Glyderau yn Eryri, a Bryniau Clwyd. I'r gogledd mae Ynys Môn. Mae'r prif afonydd yn cynnwys afon Hafren, afon Gwy, afon Teifi, afon Conwy ac afon Dyfrdwy. Caerdydd yw'r Brifddinas, yn ne Cymru; mae dinasoedd a threfi mawr eraill yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd, Caerfyrddin, Penfro, Aberystwyth, Dolgellau, Caernarfon, Bangor, Caergybi, Llandudno, Bae Colwyn, Y Rhyl, a Wrecsam.
Mae daearyddiaeth yr Alban yn gymysg, gyda iseldiroedd yn y de a'r dwyrain ac ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin, yn cynnwys Ben Nevis, mynydd uchaf y DU (1343 m). Mae llawer o lynnoedd a breichiau Môr hir a dwfn yn yr Alban, a elwir yn firthau, a lochau. Fe gyfrir hefyd dyrfa o ynysoedd i orllewin a gogledd yr Alban, e.e. Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch, ac Ynysoedd Shetland. Caeredin, Glasgow, ac Aberdeen yw'r prif ddinasoedd.
Mae Gogledd Iwerddon, rhanbarth gogledd-ddwyrain ynys Iwerddon, yn fryniog gan mwyaf. Belffast a Deri yw'r prif ddinasoedd.
[golygu] Economi
Mae'r Deyrnas Unedig, sy'n fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, sy'n un o'r fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leiheuwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy raglenni preifateiddio, ac fe gyfyngiwyd ar dwf y Wladwriaeth Les. Mae amaethyddiaeth yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn ôl safonau Ewropeaidd, gan gynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gyda dim ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang o lo, nwy naturiol, ac olew; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfri tuag at 10% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, un o ranniadau uchaf unrhyw wladwriaeth ddiwydiannol. Mae gwasanaethau, yn enwedig bancio, yswiriant , a gwasaniaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino.
Gohiriodd llywodraeth Blair ateb cwestiwn cyfranogiad y DU yn y system Ewro, gan nodi pump o brofion economaidd y dylir eu pasio cyn i refferendwm allu cymryd lle.
[golygu] Demograffaeth
Saesneg yw'r brif iaith. Mae ieithoedd eraill yn cynnwys y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a Sgoteg. Siaredir hefyd lawer o ieithoedd eraill gan fewnfudwyr o lefydd eraill yn y Gymanwlad.
[golygu] Diwylliant
Mae'r Deyrnas Unedig yn gartref i ddwy o brifysgolion enwocaf y byd: Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, ac y mae wedi cynhyrchu gweinyddwyr a pheiriannwyr enwog, er enghraifft James Watt, Charles Darwin, ac Alexander Fleming.
Mae ysgrifenwyr enwog o'r DU yn cynnwys y chwiorydd Bronte, Agatha Christie, Charles Dickens, Syr Arthur Conan Doyle a J. R. R. Tolkien. Mae beirdd pwysig yn cynnwys Robert Burns, Thomas Hardy, Alfred Tennyson, Dylan Thomas a William Wordsworth.
Mae'r cyfansoddwyr Edward Elgar, Arthur Sullivan, William Walton, Ralph Vaughan Williams, Benjamin Britten a Michael Tippett wedi gwneud cyfraniadau mawr i gerddoriaeth. Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw John Tavener, Harrison Birtwistle a Oliver Knussen.
Mae gan y Deyrnas Unedig amryw gerddorfeydd, yn cynnwys Cerddorfa Symffoni'r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngolegau cerddoriaeth y DU. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill, Llundain yw un o ddinasoedd pwysicaf am gerddoriaeth yn y byd - mae gan y ddinas sawl neuadd cyngerdd pwysig ac mae hi'n gartref i'r Tŷ Opera Brenhinol, un o dai opera arweiniol y byd.
Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog Roc a rôl The Beatles, y Rolling Stones, Led Zeppelin, The Who, Pink Floyd, Catatonia, ac Oasis.
Mae arlunwyr enwog o'r DU yn cynnwys pobl megis John Constable, Joshua Reynolds, William Blake a J.M.W. Turner. Yn yr 20ed ganrif, mae Francis Bacon, David Hockney, Bridget Riley, Kyffin Williams a'r celfyddwyr pop Richard Hamilton a Peter Blake yn bwysig. Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog, yn enwedig Damien Hirst a Tracey Emin.
Mae gan y Deyrnas Unedig draddodiad theatrig, ac mae gan Lundain lawer o theatrau, yn cynnwys y Theatr Genedlaethol Brenhinol.
Dyddiad | Enw |
---|---|
1 Ionawr | Dydd Calan |
2 Ionawr | (Yr Alban yn unig) |
17 Mawrth | Dydd Gŵyl Sant Padrig (Gogledd Iwerddon yn unig) |
Y Dydd Gwener cyn Sul y Pasg | Dydd Gwener y Groglith |
Y Dydd Sul wedi'r lleuad llawn cyntaf ers cyhydnos y gwanwyn | Sul y Pasg |
Y diwrnod wedi Sul y Pasg | Dydd Llun y Pasg |
Dydd Llun cyntaf mis Mai | Gŵyl Banc Calan Mai |
Dydd Llun olaf mis Mai | Gŵyl Banc y Gwanwyn |
12 Gorffennaf | Brwydr y Boyne - Orangemen's Day (Gogledd Iwerddon yn unig) |
Dydd Llun diwethaf yn Awst | Gŵyl Banc yr Haf |
25 Rhagfyr | Dydd Nadolig |
26 Rhagfyr | Dydd Gŵyl San Steffan (nid yn Yr Alban) |
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Senedd y Deyrnas Unedig
- (Saesneg) Rhif 10 Stryd Downing
- Hafan DU Arlein
- (Saesneg) Gwefan Teulu Brenhinol y DU
- BBC Cymru
- (Saesneg) Swyddfa Ystadegau'r DU
|
|
---|---|
Gwladwriaethau sofranaidd |
Albania · yr Almaen · Andorra · Awstria · Belarws · Gwlad Belg · Bosna a Hercegovina · Bwlgaria · Croatia · Denmarc · y Deyrnas Unedig (Yr Alban • Cymru • Gogledd Iwerddon • Lloegr) · Dinas y Fatican · yr Eidal · Estonia · y Ffindir · Ffrainc · Gwlad Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · yr Iseldiroedd · Gweriniaeth Iwerddon · Latfia · Liechtenstein · Lithwania · Lwcsembwrg · Gweriniaeth Macedonia · Malta · Moldofa · Monaco · Montenegro · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · San Marino · Sbaen · Serbia · Slofacia · Slofenia · Sweden · y Swistir · y Weriniaeth Tsiec · Wcráin |
Gwladwriaethau trawsgyfandirol |
Armenia1 · Azerbaijan2 · Cyprus1 · Georgia2 · Kazakhstan3 · Rwsia3 · Twrci3 |
Tiriogaethau dibynnol, ardaloedd ymreolaethol, a thiriogaethau eraill |
Abkhazia 2 · Adjara1 · Akrotiri a Dhekelia · Åland · Azores · Crimea · De Ossetia 2 · Føroyar · Gagauzia · Gibraltar · Gogledd Cyprus1 · Grønland4 · Jan Mayen · Jersey · Kosovo · Madeira5 · Nagorno-Karabakh1 · Nakhchivan1 · Svalbard · Transnistria · Ynys y Garn · Ynys Manaw |
Dynodir gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol gan lythrennau italig. 1 Yn Ne Orllewin Asia yn gyfan gwbwl. 2 Yn rhannol neu'n gyfan gwbwl yn Asia, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 3 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Asia. 4 Ar Blât Gogledd America. 5 Ar Blât Affrica. |
|
|
---|---|
Gwledydd cyfansoddiadol |
|
Tiriogaethau tramor |
Anguilla · Bermuda · De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De · Gibraltar · Montserrat · Saint Helena (yn cynnwys Ynys Ascension a Tristan da Cunha) · Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig · Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India · Ynysoedd Cayman · Ynysoedd y Falklands · Ynysoedd Pitcairn · Ynysoedd Turks a Caicos · Yr Ynysoedd Virgin Prydeinig |
Tiriogaethau dibynnol y Goron | Jersey · Ynys y Garn · Ynys Manaw |
Ardaloedd Canolfan Sofranaidd | Akrotiri a Dhekelia |
|
|
---|---|
Aelodau | Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithuania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
Ymgeiswyr | Albania · Croatia · Georgia · Gweriniaeth Macedonia |
|
|
---|---|
Aelodau arhosol | Yr Almaen · Canada · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Ffrainc · Japan · Rwsia · Yr Unol Daleithiau |
Cynrychiolaethau ychwanegol | Yr Undeb Ewropeaidd |
|
||
---|---|---|
Aelodau arhosol | Y Deyrnas Unedig · Ffrainc · Rwsia · Tsieina · Yr Unol Daleithiau | |
Tymor yn terfynu 31 Rhagfyr 2008 | De Affrica · Yr Eidal · Gwlad Belg · Indonesia · Panamá | |
Tymor yn terfynu 31 Rhagfyr 2009 | Burkina Faso · Costa Rica · Croatia · Fiet Nam · Libya |