Brwydr y Boyne
Oddi ar Wicipedia
Ymladdwyd Brwydr y Boyne ar 1 Gorffennaf, 1690, ar lan Afon Boyne yn Iwerddon, i'r gogledd o Ddulyn. Brwydr rhwng dau frenin a hawliai goron Lloegr oedd hi. Gorchfygodd Wiliam III/II o Loegr a'r Alban y cyn-frenin Iago II. Er nad oedd yn frwydr fawr ynddi'i hun - ychydig iawn a laddwyd - roedd yn drobwynt yn hanes Iwerddon am fod Wiliam yn Brotestant ac yn cael ei gefnogi gan ymsefydlwyr Protestannaidd y gogledd. Canlyniad hir-dymor y frwydr oedd Goruchafiaeth y Protestaniaid a darostwng y Catholigion brodorol. Dethlir buddugoliaeth Wiliam hyd heddiw gan Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.