See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Undeb Ewropeaidd - Wicipedia

Undeb Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia

Undeb Ewropeaidd

Baner yr Undeb Ewropeaidd
Baner yr Undeb Ewropeaidd

{{{pennawd_map}}}

Arwyddair "Unedig mewn amrywiaeth"
Anthem Awdl Llawenydd gan Ludwig van Beethoven
Pencadlys Brwsel, Strasbourg, Lwcsembwrg
Aelodaeth Yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gwlad Groeg, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Portiwgal, Gwlad Pwyl, Rwmania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, y Weriniaeth Tsiec
(Gweler hefyd Aelod-wladwriaethau'r UE)
Iaith / Ieithoedd swyddogol Almaeneg, Bwlgareg, Daneg, Eidaleg, Estoneg, Ffineg, Ffrangeg, Groeg, Gwyddeleg, Hwngareg, Iseldireg, Latfieg, Lithwaneg, Malteg, Portiwgaleg, Pwyleg, Rwmaneg, Saesneg, Sbaeneg, Slofaceg, Slofeneg, Swedeg, Tsieceg
(Gweler hefyd Ieithoedd yr UE)
Llywydd y Comisiwn José Manuel Barroso
Llywydd y Senedd Hans-Gert Pöttering
Llywydd Cyngor yr UE Portiwgal
Llywydd y Cyngor Ewropeaidd José Sócrates
Sefydlwyd 25 Mawrth 1957 (Cytundeb Rhufain)
7 Chwefror 1992 (Cytundeb Maastricht)
Arwynebedd 4,324,782 km² (7fed*)
Poblogaeth 494,070,000 (3ydd*)
Dwysedd poblogaeth 114/km² (69ain*)
CMC - Cyfanswm: $14,518 biliwn (1af*)
- Y pen: $28,213 (14eg)
Arian cyfredol Ewro (EUR/€), BGN, CYP, CZK, DKK, EEK, GBP, HUF, LVL, LTL, MTL, PLN, RON, SKK, SEK
Cylchfa amser UTC 0 hyd i +2
Parth rhyngrwyd .eu
Gwefan http://www.europa.eu
* pe byddai yn un wlad
Map yr Undeb Ewropeaidd
Map yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd â nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Ers 1 Ionawr 2007, mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957.

Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polisïau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu rôl mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref.

Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o 11.4 triliwn (£8 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal â gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd.

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.

[golygu] Aelod-wladwriaethau

Ers 1 Ionawr, 2007 mae 27 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd yr UE ym 1952/1958:

Mae 21 o wladwriaethau wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:

Cafodd Y Lasynys ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.

Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE, mae perthynas arbennig â'r UE gan lawer o wledydd fel Monaco ac Andorra.

Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km². Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd boblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tseina.

[golygu] Llywodraethu

[golygu] Statws

Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE.

[golygu] Fframwaith sefydliadol

Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol:

Sefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd â'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith yr Undeb.

Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithdasol.

Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys:

Bydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn "Lys Cyffredinol".

[golygu] Polisïau

Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.

[golygu] Cysylltiadau allanol

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:

[golygu] Sefydliadau

[golygu] Cyrff eraill

[golygu] Ffynonellau eraill


Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/1952 1957/1958 1965/1967 1992/1993 1997/1999 2001/2003 2007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom Cyfiawnder a Materion Cartref  
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb Paris Cytundebau Rhufain Cytundeb Cyfuno Cytundeb Maastricht Cytundeb Amsterdam Cytundeb Nice Cytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)


Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -