Rhyngrwyd
Oddi ar Wicipedia
System gysylltiedig o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang, ac sydd hefyd ar gael i'r cyhoedd, yw'r rhyngrwyd. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys lluniau, fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safon Protocol Rhyngrwyd (IP).
Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y rhyngrwyd yw'r we fyd-eang (WWW) ac e-bost, ac hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau.
Nid yw'r rhyngrwyd a'r we fyd-eang yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennau hyperdestun yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd i gael mynediad i'r dogfennau hyn.
Mae angen cyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.