Gwyddoniaeth
Oddi ar Wicipedia
System o wybod sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio yw Gwyddoniaeth. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empiriaeth, arbrofi, a naturioldeb methodolegol; ac at y cyfanrwydd trefnedig o wybodaeth y mae pobl wedi casglu trwy ymchwil o'r fath. Athroniaeth gwyddoniaeth yw astudiaeth haniaethol o natur a chyfiawnhâd gwybodaeth wyddonol.
Mynna wyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil gwyddonol ufuddhau i'r dull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol.
Dosbarthir meysydd gwyddoniaeth yn ddau brif grŵp: y gwyddorau naturiol, a'r gwyddorau cymdeithasol.
Mae Mathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg i Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth drwyadl a rhesymegol o bynciau megis maint, strwythur, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.
[golygu] Gweler hefyd
Gwyddoniaeth naturiol |
---|
Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth |
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |