See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Cymdeithaseg - Wicipedia

Cymdeithaseg

Oddi ar Wicipedia

Astudiaeth cymdeithas a gweithredoedd cymdeithasol bodau dynol yw cymdeithaseg. Yn gyffredinol mae'n ymwneud â rheolau a phrosesau cymdeithasol sy'n cysylltu a gwahanu pobl nid yn unig fel unigolion, ond fel aelodau cymunedau, grwpiau, a sefydliadau, ac yn cynnwys astudiaeth o drefniadaeth a datblygiad bywyd cymdeithasol dynol. Mae ymchwil cymdeithasegol yn amrywio o ddadansoddiad cysylltiadau byrion rhwng unigolion dienw ar y stryd i astudiaeth prosesau cymdeithasol byd-eang. Mae'r rhan fwyaf o gymdeithaswyr yn gweithio mewn un arbenigedd neu fwy.

Mae'r gair cymdeithaseg yn tarddu o'r olddodiad "-eg" sy'n golygu "astudiaeth", a'r gair "cymdeithas" (sef, mewn ystyr llac, "pobl"). Gwyddor cymdeithas sy'n cynnwys astudiaeth bywydau cymdeithasol pobl, grwpiau, a chymdeithasau yw e, a ddiffinir weithiau fel astudiaeth rhyngweithiadau cymdeithasol. Fel disgyblaeth academaidd mae cymdeithaseg yn weddol ifanc – cafodd ei datblygu yn y 19eg ganrif.

Oherwydd bod cymdeithaseg yn bwnc mor eang, gall fod yn anodd i'w diffinio, hyd yn oed i gymdeithaswyr proffesiynol. Un ffordd ddefnyddiol i ddisgrifio'r ddisgyblaeth yw fel clwstwr o is-feysydd sy'n astudio agweddau gwahanol ar gymdeithas. Er enghraifft, mae haeniad cymdeithasol yn astudio anghyfartaledd a'r strwythur dosbarth; mae demograffeg yn astudio newidiadau mewn meintiau a mathau poblogaethau; mae troseddeg yn astudio ymddygiadau troseddol; mae cymdeithaseg wleidyddol yn astudio llywodraeth a'r gyfraith; ac mae cymdeithaseg hil a chymdeithaseg rhyw yn astudio adeiladwaith hiliau a rhywiau yn ogystal ag anghyfartaledd hiliol a rhywiaethol yng nghymdeithas. Mae is-feysydd cymdeithasegol dal i ymddangos – megis dadansoddiad rhwydwaith – ac mae nifer ohonynt yn groes-ddisgyblaethol eu natur.

Mae nifer o gymdeithaswyr yn gwneud ymchwil defnyddiol y tu allan i'r academi. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyo addysgwyr, deddfwyr, gweinyddwyr, datblygwyr, arweinwyr busnes, a phobl sydd â diddordeb yn natrys problemau cymdeithasol a ffurfio polisi cyhoeddus.


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -