Daearyddiaeth ddynol
Oddi ar Wicipedia
Yr adran o ddaearyddiaeth sy'n canolbwyntio ar astudiaeth patrymau a phrosesau sy'n siapio rhyngweithiad dynol â'r amgylchedd, gyda chyfeiriad pwysig i'r achosion a'r canlyniadau o ddosbarthiad gofodol gweithgarwch dynol ar wyneb y Ddaear, yw daearyddiaeth ddynol.
Mae'n amgylchynu agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd y gwyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn cymryd lle, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.
[golygu] Meysydd daearyddiaeth ddynol
Meysydd Daearyddiaeth Ddynol | Meysydd Cysylltiedig |
---|---|
Daearyddiaeth amgylcheddol | Gwyddor amgylchedd |
Daearyddiaeth boblogaeth | Demograffeg |
Daearyddiaeth drefol | Astudiaethau trefol a Chynllunio |
Daearyddiaeth ddatblygiad | Datblygiad economaidd |
Daearyddiaeth ddiwylliannol | Anthropoleg a Chymdeithaseg |
Daearyddiaeth economaidd | Economeg |
Daearyddiaeth farchnata | Busnes |
Daearyddiaeth iechyd | Gwyddor iechyd |
Daearyddiaeth filwrol | Daearstrategaeth |
Daearyddiaeth ffeministaidd | Ffeministiaeth |
Daearyddiaeth grefyddol | Crefydd |
Daearyddiaeth gymdeithasol | Cymdeithaseg |
Daearyddiaeth hanesyddol | Hanes |
Daearyddiaeth ieithyddol | Ieithyddiaeth |
Daearyddiaeth ranbarthol | Rhanbarthiad |
Daearyddiaeth strategol | Daearstrategaeth |
Daearyddiaeth wleidyddol | Gwyddor gwleidyddiaeth (yn cynnwys Daearwleidyddiaeth) |
Daearyddiaeth ymddygiadol | Seicoleg |
[golygu] Gwelwch hefyd
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |