Bioleg
Oddi ar Wicipedia
Bioleg | |
Anatomeg |
Bioleg - neu Bywydeg - yw'r maes gwyddonol sy'n astudio bywyd. Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiadau organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth, a'r rhyngweithriad sydd ganddynt efo'i gilydd ac efo'r amgylchedd.
Mae bioleg yn cwmpasu sbectrwm llydan o feysydd academaidd sy'n astudio ac archwilio pob rhan o natur. Botaneg yw astudiaeth planhigion, sŵoleg yw astudiaeth anifeiliaid ac anthropoleg yw'r adran o fioleg sy'n astudio bodau dynol. Ar y raddfa moleciwlaidd, astudir bywyd o fewn y pynciau bioleg foleciwlaidd, biocemeg, a geneteg foleciwlaidd. Ar y lefel nesaf, sef y gell, caiff ei astudio mewn bioleg cell, ac ar raddfeydd amlgellog, caiff ei astudio o fewn ffisioleg, anatomeg, a histoleg. Mae bioleg ddatblygiadol yn astudio bywyd ar lefel ddatblygiad organeb unigol neu ontogenesis. Yn symud i fyny'r raddfa i fwy nag un organeb, mae geneteg yn astudio sut mae etifeddeg yn gweithio rhwng rhiant ac epil. Mae etholeg yn astudio ymddygiad grŵp mwy nag un unigolyn. Mae geneteg poblogaeth yn edrych ar lefel holl boblogaeth, ac mae systemateg yn astudio'r raddfa aml-rhywogaeth o linachau. Astudir poblogaethau cyd-ddibynnol a'u cynefinoedd yn ecoleg a bioleg esblygiadol. Maes dyfaliadol newydd yw estronbioleg, sy'n archwilio i'r tebygolrwydd o fywyd tu hwnt i'r Ddaear.
[golygu] Dosbarthiad bywyd
Gelwir y system dosbarthiad dominyddol yn 'Tacsonomeg Linnaeus', sy'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Sŵolegol (ICON), a Chod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn weld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd.
[golygu] Pethau byw
[golygu] Hanes
Mae prif ddarganfyddiadau bioleg yn cynnwys:
Gwyddoniaeth naturiol |
---|
Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth |