Esblygiad
Oddi ar Wicipedia
Esblygiad yw'r ddamcaniaeth bod creaduriaid syml a hynafol wedi newid dros miloedd ar filoedd o flynyddodd a datblygu i fod yn greaduriaid newydd, ac yn wahanol hyd yn oed, hyd nes y cafwyd yr amrywiaeth enfawr o rywogaethau a geir heddiw. Yr oedd esblygiad yn golygu y gallai rhai gwahaniaethau sicrhau bod creaduriaid yn goroesi fel yr oedd yr amgylchedd o'u cwmpas yn newid, tra y byddai'r rhai nad oedd yn newid yn methu goroesi.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pawb yn meddwl fod Esblygiad yr un peth a gwelliant (cf. Tynged Amlwg), ond erbyn yr ugeinfed ganrif daeth y mwyafrif o wyddonwyr i dderbyn nad oedd esblygiad yr un peth â gwelliant neu gynydd o reidrwydd.
Charles Darwin a Gregor Mendel yw sylfaenwyr damcaniaeth esblygiad fodern. Gwnaeth Darwin gyflwyno'r syniad o ddetholiad naturiol.
[golygu] Gweler hefyd
- Cynydd
- Tynged Amlwg