Botaneg
Oddi ar Wicipedia
Bioleg | |
Anatomeg |
Botaneg (o'r Groeg: botaníké [epistémé], "gwyddor planhigion") yw'r astudiaeth wyddonol o fywyd planhigion. Fel cangen o fioleg, weithiau cyfeiriwyd ato fel gwyddor(au) planhigion, bioleg planhigion neu lysieueg. Mae botaneg yn cynnwys graddfa eang o ddisbyglaethau gwyddonol sy'n astudio strwythur, tyfiant, atgenhedliad, metabolaeth, datblygiad, afiechydon, ecoleg, ac esblygiad planhigion.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Maes a phwysigrwydd botaneg
Megis ffurfiau bywyd eraill ym mioleg, gall planhigion cael eu hastudio o safbwyntiau gwahanol, o'r lefel moleciwlaidd, genetig a biocemegol trwy organynnau, celloedd, meinweoedd, organau, unigolion, poblogaethau planhigion, a chymunedau planhigion. Ar bob un o'r lefelau yma gall botanegwr wedi ymddiddori'i hunan mewn dosbarthiad (tacsonomeg), strwythur (anatomeg), neu swyddogaeth (ffisioleg) planhigion.
Yn hanesyddol, mae botaneg yn ymdrin â phob organeb na ystyrir yn anifeiliaid. Mae rhai o'r organebau yma yn cynnwys ffyngau (a astudir ym mycoleg), bacteria a firysau (a astudir ym microbioleg), ac algae (a astudir yn phycoleg). Ni ystyrir y rhan fwyaf o algae, ffyngau, a microbau i fod yn y deyrnas planhigion rhagor. Er hynny, mae sylw dal yn cael ei rhoi atynt gan fotanegwyr, ac fel arfer ymdrinir â bacteria, ffyngau, ac algae mewn cyrsiau botaneg rhagarweiniol.
Mae astudiaeth planhigion yn bwysig am nifer o resymau. Mae planhigion yn rhan sylfaenol o fywyd y Ddaear. Maent yn cynhyrchu ocsigen, bwyd, ffibrau, tanwyddau a moddion sy'n galluogi ffurfiau uwch o fywyd i fodoli. Mae planhigion hefyd yn amsugno carbon deuocsid, nwy tŷ gwydr arwyddocaol, trwy ffotosynthesis. Mae dealltwriaeth dda o blanhigion yn hanfodol i ddyfodol cymdeithas dynolryw gan ei fod yn galluogi ni i:
- Fwydo'r byd
- Deall prosesau bywyd sylfaenol
- Defnyddio moddion a defnyddiau
- Deall newidiadau amgylcheddol
[golygu] Hanes
[golygu] Botaneg gynnar (cyn 1945)
Ymhlith y gweithiau botanegol cynharaf mae dau draethawd mawr gan Theophrastus, a ysgrifennir tua 300 C.C.: Ar Hanes Planhigion (Historia Plantarum) ac Ar Achosion Planhigion. Gyda'i gilydd mae'r llyfrau yma yn y cyfraniad pwysicaf i wyddor planhigion yn ystod yr henfyd hyd yr Oesoedd Canol. Mae'r awdur meddygol Rhufeinig Dioscorides yn rhoi tystiolaeth bwysig am wybodaeth Groegaidd a Rhufeinig am blanhigion meddygol.
Yn 1665, gan ddefnyddio microsgop cynnar, darganfyddodd Robert Hooke celloedd mewn corc, ac yna mewn meinwe planhigyn byw. Cyhoeddodd yr Almaenwr Leonhart Fuchs, y Swisiad Conrad von Gesner, a'r awduron Prydeinig Nicholas Culpeper a John Gerard llysieulyfrau yn rhoi gwybodaeth ar ddefnyddiau meddygol planhigion.
[golygu] Botaneg fodern (ers 1945)
Mae cryn dipyn o'r wybodaeth newydd y ddysgem am fotaneg heddiw yn dod o astudio blanhigion model megis Arabidopsis thaliana. Roedd y chwynnyn mwstard yma yn un o'r planhigion cyntaf i gael dilyniant ei genom ei ddarganfod. Mae dilyniant DNA genom reis wedi ei wneud yn y fodel mewn ffaith ar gyfer grawnfwyd, gwair a monocot. Mae Brachypodium distachyon, rhywogaeth gwair arall, hefyd yn ymddangos fel model arbrofol ar gyfer deall bioleg genetig, cellog a moleciwlaidd gweiriau tymherus. Mae prif bwydydd eraill sy'n bwysig ym myd masnach, megis gwenith, indrawn, haidd, rhyg, miled a'r ffeuen soia, hefyd yn derbyn ymchwil i'w dilyniannau genom. Mae hyn yn gallu bod yn waith anodd iawn gan fod gan rhai mwy na ddwy set haploid o gromosomau, cyflwr a elwir yn bolyploidaeth, sy'n gyffredin yn y deyrnas planhigion. Mae Chlamydomonas reinhardtii (alga gwyrdd, ungell) yn fodel blanhigyn arall sydd wedi cael ei hastudio'n ymestynnol ac wedi rhoi mewnwelediadau pwysig i mewn i fioleg celloedd.
[golygu] Gweler hefyd
- Amaeth
- Gardd fotaneg