Ffwng
Oddi ar Wicipedia
Ffyngau | ||||
---|---|---|---|---|
Amanita'r gwybed (Amanita muscaria)
|
||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||
|
||||
Ffyla | ||||
Chytridiomycota |
Grŵp o bethau byw sy'n perthyn i'r deyrnas Fungi yw ffyngau. Fe'u dosbarthwyd fel planhigion yn wreiddiol ond maent yn perthyn yn agosach i anifeiliaid. Mae mwy na 70,000 o rywogaethau o ffwng.
Mae llawer o ffyngau'n bwydo ar organebau marw. Parasitiaid sy'n bwydo ar organebau byw yw rhywogaethau eraill. Mae rhai ffyngau yn byw gydag algâu mewn perthynas symbiotig, yn ffurfio cennau.
Mae'r ffyngau mwyaf adnabyddus yn cynhyrchu madarch neu gaws llyffant.
Mae ffyngau o bwysigrwydd economaidd yn cynnwys burum a ddefnyddir i wneud cwrw a bara a rhai rhywogaethau o lwydni a ddefnyddir i wneud caws.
[golygu] Dolenni allanol
- Bioleg Ffyngau Canolfan Edward Llwyd, Prifysgol Cymru