Ffiseg
Oddi ar Wicipedia
Ffiseg | |
Cysyniadau ffiseg Acwsteg |
Mae ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) neu anianeg (term hynafol) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur. Amcan ffiseg yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, egni, gofod ac amser. Mae anianeg yn:
- disgrifio cyfansoddiad elfennol y bydysawd
- disgrifio'r rhyngweithiadau rhwng elfennau'r bydysawd
- dadansoddi systemau drwy ddefnyddio egwyddorion sylfaenol.
Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.
Mae'r pynciau canlynol yn is-ddosbarthiad o'r pwnc.
- Atomau a Niwclysau
- Cerrynt Trydan
- Y Ddaear
- Egni
- Goleuni
- Grym
- Magnet
- Mudiant
- Seryddiaeth
- Pelydr
- Sain
- Ton
- Trydan
- Ynysydd
Yn aml, cai meysydd eu trefnu fel a ganlyn.
- Atomau, Niwclysau a Mater
- Deinameg a Perthnasedd
- Dirgryniadau a Thonnau
- Meysydd Electrig a Magneteg
Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagneteg. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel dysgyblaeth ar wahan. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.
Gwyddoniaeth naturiol |
---|
Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth |