Indonesia
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Bhinneka Tunggal Ika (Undod mewn Amrywiaeth) |
|||||
Anthem: Indonesia Raya | |||||
Prifddinas | Jakarta | ||||
Dinas fwyaf | Jakarta | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Bahasa Indonesia | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd | Susilo Bambang Yudhoyono |
||||
Annibyniaeth • Datganwyd • Cydnabuwyd |
Oddiwrth yr Iseldiroedd 17 Awst 1945 27 Rhagfyr 1949 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1,904,569 km² (16fed) 4.85 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
222,781,000 (4fed) 206,264,595 117/km² (84fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $977.4 biliwn (15fed) $4,458 (110fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.711 (108fed) – canolig | ||||
Arian cyfred | Rupiah (IDR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+7 i +9) | ||||
Côd ISO y wlad | .id | ||||
Côd ffôn | +62 |
Ynysfor mwyaf y byd yw Gweriniaeth Indonesia neu Indonesia. Mae'r wlad hon yn gorwedd rhwng cyfandiroedd Asia ac Awstralia yn ogystal â rhwng Cefnfor India a'r Cefnfor Tawel. Y gwledydd cyfagos yw Malaysia (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Borneo, Kalimantan yw enw'r rhan sy'n perthyn i Indonesia), Papua Guinea Newydd (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Guinea Newydd, sef ynys Irian yn Bahasa Indonesia) a Dwyrain Timor (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Timor).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ynysoedd
Mae gan Indonesia 18,108 o ynysoedd, gyda phobl yn byw ar tua 6,000 ohonynt. Mae'r ynysoedd sy'n perthyn yn gyfangwbl i Indonesia yn cynnwys:
Mae'r brifddinas, Jakarta, ar ynys Jawa. Jakarta yw'r ddinas fwyaf, yn cael ei dilyn gan Surabaya, Bandung, Medan, a Semarang.
[golygu] Taleithiau
Rhennir Indonesia yn 33 o daleithiau:
Talaith | Prifddinas |
---|---|
Nanggroe Aceh Darussalam | Banda Aceh |
Gogledd Sumatra | Medan |
Gorllewin Sumatra | Padang |
Riau | Pekanbaru |
Ynysoedd Riau | Tanjung Pinang |
Jambi | Jambi |
Bengkulu | Bengkulu |
De Sumatra | Palembang |
Bangka-Belitung | Pangkal Pinang |
Lampung | Bandar Lampung |
Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta | Jakarta |
Banten | Serang |
Gorllewin Java | Bandung |
Canolbarth Java | Semarang |
Ardal Arbennig Yoggyakarta | Yogyakarta |
Dwyrain Java | Surabaya |
Bali | Denpasar |
Gorllewin Nusa Tenggara | Mataram |
Dwyrain Nusa Tenggara | Kupang |
Gorllewin Kalimantan | Pontianak |
Canolbarth Kalimantan | Palangkaraya |
De Kalimantan | Banjarmasin |
Dwyrain Kalimantan | Samarinda |
Gogledd Sulawesi | Manado |
Gorontalo | Gorontalo |
Canolbarth Sulawesi | Palu |
De-ddwyrain East Sulawesi | Kendari |
De Sulawesi | Makassar |
Gorllewin Sulawesi | Mamuju |
Maluku | Ambon |
Gogledd Maluku | Ternate |
Papua | Jayapura |
Gorllewin Papua | Manokwari |
[golygu] Hanes Indonesia
Morwyr o Portiwgal oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ynysoedd Indonesia yn 1512. Dilynwyd hwy gan fasnachwyr o'r Iseldiroedd a Phrydain. Yn 1602 sefydlwyd Cwmni India'r Dwyrain yr Iseldiroedd (VOC), a'r cwmni yma oedd y pwer mawr yn yr ynysoedd hyd 1800, pan ddaethant yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd dan y llywodraeth.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd meddiannwyd yr ynysoedd gan Japan. Ar ddiwedd y rhyfel yn Awst 1945, cyhoeddodd y cenedlaetholwyr Indonesaidd, dan arweiniad Sukarno, wladwriaeth annibynnol. Ceisiodd yr Iseldiroedd ad-ennill grym, ond wedi cryn dipyn o ymladd gorfodwyd hwy i gydnabod annibyniaeth Indonesia yn Rhagfyr 1949.
Bu Sukarno yn arlywydd hyd 1968. Gwanychwyd ei safle yn ddirfawr gan ddigwyddiadau 30 Medi 1965, pan laddwyd chwech cadfridog yn yr hyn a hawlid oedd yn ymgais gan Blaid Gomiwnyddol Indonesia (PKI) i gipio grym. Ymatebodd y fyddin, dan arweiniad y cadfridog Suharto, trwy ladd miloedd lawer o gomiwnyddion ac eraill y dywedid eu bod mewn cydymdeimlad â hwy. Credir i rhwng 500,000 a miliwn o bobl gael eu lladd. Daeth Suharto yn arlywydd yn ffurfiol ym mis Mawrth 1968.
Yn ystod cyfnod Suharto bu tŵf economaidd sylweddol, ond effeithiwyd ar yr economi yn ddifrifol gan broblemau economaidd Asia yn 1997 a 1998. Cynyddodd protestiadau yn erbyn Suharto, ac fe'i gorfodwyd i ymddiswyddo ar 21 Mai 1998. Yn 1999 pleidleisiodd Dwyrain Timor i adael Indonesia a dod yn wladwriaeth annibynnol.
Yn dilyn ymddiswyddiad Suharto, sefydlwyd trefn fwy democrataidd, a chynhaliwyd yr etholiad uniongyrchol cyntaf i ddewis Arlywydd yn 2004.
[golygu] Arlywyddion Indonesia
- 1945–1967: Sukarno (1901–1970)
- 1967–1998: Suharto (1921–2008)
- 1998–1999: Bacharuddin Jusuf Habibie (1936)
- 1999–2001: Abdurrahman Wahid (1940)
- 2001–2004: Megawati Sukarnoputri (1947)
- 2004–heddiw: Susilo Bambang Yudhoyono (1949)
[golygu] Ecoleg
Oherwydd maint a hinsawdd drofannol Indonesia, yma y ceir y lefel ail-fwyaf o fioamrywiaeth yn y byd; dim ond Brasil sydd a lefel uwch. Ar yr ynysoedd gorllewinol, ceir anifeiliad tebyg i'r rhai ar gyfandir Asia. Mae nifer o'r rhywogaethau o famaliaid mawr megis Teigr Sumatra, Rheinoseros Java, yr Orangutan, yr Eliffant ac eraill mewn perygl o ddiflannu. Mae llawer o'r fforestydd trofannol wedi eu colli yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd torri coed, llawer ohono yn anghyfreithlon, a llosgi'r coed yn fwriadol.
Disgrifiodd y naturiaethwr o Gymro, Alfred Russel Wallace, y llinell rhwng rhywogaethau Asiaidd a rhywogaethau Awstralaidd, a elwir yn Linell Wallace. Mae'n gwahanu Kalimantan a Sulawesi, yna'n gwahanu Lombok a Bali. I'r dwyrain o'r llinell yma, mae'r anifeiliaid a phlangigion o fathau Awstralaidd.
Afghanistan · Armenia · Azerbaijan1 · Bahrain · Bangladesh · Bhutan · Brunei · Cambodia · Corea (Gogledd Corea · De Corea) · Cyprus · Dwyrain Timor · Emiradau Arabaidd Unedig · Fiet Nam · Georgia1 · Gwlad Iorddonen · India · Indonesia · Irac · Iran · Israel (gweler hefyd tiriogaethau Palesteinaidd) · Japan · Kazakhstan1 · Kuwait · Kyrgyzstan · Laos · Libanus · Malaysia · Maldives · Mongolia · Myanmar · Nepal · Oman · Pakistan · Pilipinas · Qatar · Rwsia1 · Saudi Arabia · Singapore · Sri Lanka · Syria · Tajikistan · Gwlad Thai · Tsieina (Gweriniaeth Pobl China (Hong Kong • Macau • Tibet) · Gweriniaeth Tsieina (Taiwan)) · Twrci1 · Turkmenistan · Uzbekistan · Yemen