Brasil
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Ordem e Progresso (Trefn a Chynnydd) |
|||||
Anthem: Hino Nacional Brasileiro | |||||
Prifddinas | Brasília | ||||
Dinas fwyaf | São Paulo | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth ffederal | ||||
- Arlywydd | Luiz Inácio Lula da Silva |
||||
- Is-arlywydd | José Alencar Gomes da Silva |
||||
Annibyniaeth - Datganwyd - Cydnabuwyd - Gweriniaeth |
o Bortiwgal 7 Medi 1822 29 Awst 1825 15 Tachwedd 1889 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
8,514,877 km² (5ed) 0.65 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
186,405,000 (5ed) 169,799,170 22/km² (182ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $1.577 triliwn (9fed) $8,584 (68ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.792 (63ain) – canolig | ||||
Arian cyfred | Real (BRL ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-2 i -5) | ||||
Côd ISO y wlad | .br | ||||
Côd ffôn | +55 |
Gwlad fwyaf De America yw Brasil (República Federativa do Brasil ym Mhortiwgaleg). Gwledydd cyfagos yw Uruguay, Ariannin, Paraguay, Bolivia, Periw, Colombia, Venezuela, Guyana, Suriname a Guyane Ffrengig. Mae Cefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Mae amaethyddiaeth yn bwysig yn Brasil ac mae ynddi fforestydd glaw eang.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Taleithiau
Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau:
- Rhanbarth Canolbarth-Dwyrain
- Distrito Federal (DF)
- Goiás (GO)
- Mato Grosso (MT)
- Mato Grosso do Sul (MS)
- Rhanbarth Nordeste
- Alagoas (AL)
- Bahia (BA)
- Ceará (CE)
- Maranhão (MA)
- Paraíba (PB)
- Pernambuco (PE)
- Piauí (PI)
- Rio Grande do Norte (RN)
- Sergipe (SE)
- Rhanbarth Norte
- Acre (AC)
- Amapá (AP)
- Amazonas (AM)
- Pará (PA)
- Rondônia (RO)
- Roraima (RR)
- Tocantins (TO)
- Rhanbarth Sudeste
- Espírito Santo (ES)
- Minas Gerais (MG)
- Rio de Janeiro (RJ)
- São Paulo (SP)
- Rhanbarth Sul
- Paraná (PR)
- Rio Grande do Sul (RS)
- Santa Catarina (SC)
[golygu] Daearyddiaeth Brasil
O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandir De America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ond Rwsia, Canada, China a'r Unol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledydd Uruguay, yr Ariannin, Paraguay, Bolivia, Periw, Colombia, Venezuela, Guyana, Suriname, a Guyane Ffrengig. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffîn â Brasil, sef Chile ac Ecuador.
Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. Tardda Afon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedig y Rio Negro.
Mae'r ail hwyaf o afonydd De America, Afon Paraná yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. ,Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paraguay a Brasil. Gerllaw'r fan hon mae Afon Iguazú, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno a hi.
Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf o fforest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf.
[golygu] Hanes Brasil
Dechreuodd hanes Brasil pan gyrraeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16eg ganrif, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgeaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megis y frech wen.
Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16eg ganrif hyd y 19eg ganrif roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.
Yn 1808, bu raid i'r brenin Ioan VI a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwyd y wlad gan Ffrainc dan Napoleon. O hynny hyd 1821, o Rio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815, cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.
Ar 7 Medi, 1822, cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu fel Pedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri cyfnod o lywodraeth unbennaidd yn 1930-1934; 1937-1945 a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemoctataidd ers hynny.
[golygu] Gwleidyddiaeth Brasil
[golygu] Iaith a Diwylliant
[golygu] Iaith
Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o whaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal.
Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siarad Almaeneg ac Eidaleg.
[golygu] Diwylliant
Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil,; diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobloedd brodorol, yn enwedig y Tupi), a chaethweision o Affrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig.
O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megis samba, bossa nova, forró, frevo , pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog.
[golygu] Crefydd
Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae't nifer o brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnosticiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddidiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill,
[golygu] Chwaraeon
Peldroed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r tîm cenedlaethol wedi ennill Cwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 and 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o beldroedwyr Brasil yw Pelé, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y peldroediwr gorau yn hanes y gêm.
[golygu] Dolenni allanol
- (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Delweddau Brasil