Luiz Inácio Lula da Silva
Oddi ar Wicipedia
Luiz Inácio Lula da Silva, enw gwreiddiol Luiz Inácio da Silva (ganed 27 Hydref 1945, yw Arlywydd presennol Brasil.
Ganed ef yn Caetés yn nhalaith Pernambuco, i deulu tlawd. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol; ni ddysgodd ddarllen nes oedd yn ddeg oed. Yn 1956 symudodd y teulu i ddinas São Paulo. Bu'n weithgar gydag undebau llafur, ac ar 10 Chwefror 1980, roedd yn un o'r grŵp a ddechreuodd y Partido dos Trabalhadores (PT), "Plaid y Gweithwyr". Yn 1982, ychwanegodd ei lysenw, Lula, ar ei enw yn gyfreithiol. Yn 1986 enillodd sedd ar Gyngres Brasil. Yn 1989 ymladdodd yr etholiad arlywyddol dros Blaid y Gweithwyr, ond yn aflwyddiannus.
Etholwyd ef yn Arlywydd ar 27 Hydref 2002 gyda 61% o'r bleidlais yn yr ail rownd o'r etholiad arlywyddol, a dechreuodd yn y swydd ar 1 Ionawr 2003. Ar 29 Hydref 2006, etholwyd ef am ail dymor.