See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Gweriniaeth Macedonia - Wicipedia

Gweriniaeth Macedonia

Oddi ar Wicipedia

Република Македонија
Republlika Makedonija
Republika e Maqedonisë

Поранешна Југословенска Република Македонија
Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija
Ish Republika Jugosllave e Maqedonisë

Gweriniaeth Macedonia
Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia
Baner Macedonia Arfbais Macedonia
Baner Arfbais
Arwyddair: Слобода или смрт/Sloboda ili smrt
(Macedoneg: 'Rhyddid neu angau')
Anthem: Денес над Македонија/Denes nad Makedonija
(Macedoneg: 'Heddiw dros Facedonia')
Lleoliad Macedonia
Prifddinas Skopje
Dinas fwyaf Skopje
Iaith / Ieithoedd swyddogol Macedoneg, Albaneg
Llywodraeth Gweriniaeth unedol
Arlywydd
Prif Weinidog
Branko Crvenkovski
Nikola Gruevski
Datganiad annibyniaeth oddiwrth Iwgoslafia
dim
8 Medi 1991
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
25,333 km² (149)
1.9%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
2,034,000 (143)
80/km² (110)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2004
$14,914 biliwn (121)
$7,237 (80)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.797 (59) – canolig
Arian cyfred denar (MKD)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .mk
Côd ffôn +389

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop ar Orynys y Balcanau yw Gweriniaeth Macedonia (neu Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia). Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol Macedonia. Mae'n rhannu ffiniau â Serbia i'r gogledd, Bwlgaria i'r dwyrain, Gwlad Groeg i'r de ac Albania i'r gorllwein. Tan 8 Medi 1991, roedd yn rhan o Iwgoslafia. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na Slofenia a Chroatia. Ei phrifddinas yw Skopje, dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw Bitola, Prilep, Tetovo, Kumanovo, Ohrid, Veles, Štip a Strumica. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r Macedoniaid (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol Albaneg (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r Cenhedloedd Unedig ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr ieithoedd swyddogol yw Macedoneg ac (o 2002 ymlaen) Albaneg.

Mae Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac yn ymgeisydd i ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Disgwylir hefyd iddi geisio am ymaelodi â NATO.

Enw'r wlad

Ar hyn o bryd mae Macedonia (Macedoneg Македонија/Makedonija, Albaneg Maqedonia) yn defnyddio dau enw. Enw swyddogol y wlad yw Gweriniaeth Macedonia (Macedoneg Република Македониjа/Republika Makedonija, Albaneg Republika e Maqedonisë). Nid oedd yr enw hwn yn dderbyniol gan lywodraeth Gwlad Groeg, gan iddi weld yn yr enw hawl i ranbarth gogledd Gwlad Groeg o'r un enw. Felly mae Macedonia wedi cytuno defnyddio'r enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (Macedoneg Поранешна Југословенска Република Македонија/Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija) fel enw dros dro yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, ac mewn mudiadau rhyngwladol eraill. Mae trafodaethau rhwng llywodraethau Macedonia a Gwlad Groeg yn parháu o dan nawdd y Cenhedloedd Unedig i ddatrys y ddadl ynglŷn ag enw swyddogol y wlad.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -