Democratiaeth
Oddi ar Wicipedia
Tardda'r gair democratiaeth o'r Groeg δημοκρατία (democratia), δημος (demos) y werin + κρατειν (cratein) teyrnasu. Golyga ffurf o lywodraeth a reolir gan boblogaeth y gymdeithas. Mae'r cysyniad hwn wedi cael ei ddehongli mewn gwahanol ffurf trwy hanes. Yn hynny o beth, mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng wahanol fathau o ddemocratiaeth.