Llandybie
Oddi ar Wicipedia
Llandybie Sir Gaerfyrddin |
|
Pentref diwydiannol yn Sir Gaerfyrddin, ger Rhydaman, yw Llandybie (hefyd Llandybïe), ac mae'n un o'r rhai mwyaf yn y sir honno.
Mae ardal Cyngor Cymuned Llandybïe yn fawr hefyd, gydag 8,700 o drigolion - dros 6,000 ohonynt yn Gymraeg eu hiaith - ac yn cynnwys pentrefi Saron, Blaenau, Caerbryn, Cwmgwili, Penybanc, Capel Hendre, Pentregwenlais a Phen-y-groes.
Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybie gan y brodyr Aneirin Talfan Davies ac Alun Talfan Davies yn 1940.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llandybie ym 1944. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandybie 1944