Pont Britannia
Oddi ar Wicipedia
Pont Britannia sydd yn cysylltu Ynys Môn gyda’r tir mawr, gan gludo’r rheilffordd a’r A55 dros Afon Menai.
Enw cywir y bont yw Pont Llanfair. Daw’r enw o bentref cyfagos Llanfairpwll, ond credir i'r bont gael ei cham-enwi yn Pont Britannia o gam-gyfieithiad o enw'r graig y saif piler canol y bont arni - Carreg y Frydain.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Adeiladu’r Bont
Adeiladwyd y bont yn wreiddiol ar gyfer y rheilffordd yn unig, rhan o Rheilffordd Caer a Chaergybi. Rhoddwyd y gwaith i’r peiriannydd Robert Stephenson ac, fel Pont Y Borth o’i blaen, adeiladwyd pont tebyg (ond llai) gan yr un periannydd ar draws Afon Conwy yr un pryd.
Fel Pont Y Borth, ‘roedd rhaid i’r bont fod yn ddigon uchel i ganiatau mynediad tani i longau hwylio. Strwythr y bont wreiddiol oedd tiwbiau o haearn, gyda dau prif ran o 460 troedfedd (140m) o hyd, ac yn pwyso 1800 tunell. Gyda chysylltidau llai o 230 troeddfedd (70m) y naill ochr, roedd hyd y tiwb gyfan yn 1511 troedfedd (461m). Wedi cychwn ar y gwaith adeiladu ym 1846, agorwyd y bont ar 5 Mawrth, 1850. Roedd bellach yn bosibl cyrraedd Caergybi ar y reilffordd mewn naw awr o gymharu a rhyw ddeugain awr ar y goets.
Adnabyddwyd y bont wreiddiol yn gymaint fel ‘Y Tiwb’ â’r enw swyddogol.
[golygu] Tân
Ar 23 Mai, 1970, crwydrodd rhai hogiau lleol, yn chwilio am ystlumod, i fewn i’r bont, a chan danio torch i weld eu ffordd, yn ddiarwybod iddynt, cychwyanasant dân yn y bont. Er mai metel oedd strwythr y tiwb, ‘roedd wedi ei atgyfnerthu gan goed, a’r coed hwnnw wedi ei drwytho mewn pitsh. Llosgodd hwn yn ulw dros nos, a dwysedd y gwres yn ddigon i fwclo’r haearn nes bod y bont, i bob pwrpas, wedi ei difa’n llwyr.
(Gweler Adroddiad Tân Swyddogol, Fideo BBC).
Oherwydd y difrod i’r rheilffordd, ‘roedd rhaid ailagor y rheilffordd i Gaernarfon am gyfnod a sicrhau bod nwyddau oedd wedi eu danfon ar y trên ar gyfer y porthladd yn cael eu cludo i Gaergybi ar y ffordd. Aethpwyd ati i ail-adeiladu’r bont gan osod bwâu newydd o ddur i gynnal y strwthr. Ail-agorwyd y bont i’r rheilffordd, ond llinell sengl yn unig, ym 1972.
Cymerodd fwy o amser eto i adeiladu’r dec ychwanegol i gludo’r ffordd, uwch ben y rheilffordd. Agorwyd hwn yn 1980.
[golygu] Llewod Tew
‘Roedd dyluniad y bont wreiddiol yn cywwnys llewod sylweddol o galchfaen, a ddyluniwyd gan John Thomas y naill ochr i’r rheilffordd ar ochr Sir Fôn a Sir Gaernarfon. Anfarwolwyd y rhain yn y penill gan Y Bardd Cocos -
-
- Pedwar llew tew
- Heb ddim blew
- Dau 'rochr yma
- A dau 'rochr drew
Nid yw’r llewod i’w gweld o’r A55 er bod y syniad o’u codi at lefel y ffordd wedi ei wyntyllu o bryd i’w gilydd.
[golygu] Y Bont Heddiw
Maer bont yn cludo’r A55, bellach y brif ffordd ar draws Gogledd Cymru. Gan mai ffordd ddeuol yw hi y gweddill o’r ffordd, ond ar y bont yn ffordd sengl, ar adegau mae pwysau traffig y naill ochr neu’r llall yn achosi rhesi o gerbydau yn disgwyl croesi. Mae gwleidyddion lleol yn galw am ehangu’r bont, un ai gan osod trydedd lôn lawr y canol, neu adeliadau cerbydlonydd newydd tu allan i’r lonydd presennol.
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn pasio dan y bont ar hyd y traeth ar lan Afon Menai yn ymyl Pwll Ceris.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Charles Matthew Norrie (1956). Bridging the Years - a short history of British Civil Engineering. Edward Arnold (Publishers) Ltd.
- Rolt, L.T.C. (1960) George and Robert Stephenson: The Railway Revolution, Ch. 15, ISBN 0140076468
[golygu] Arddangosfeydd a Chreiriau
Mae nifer o luniau, cynlluniau a chreiriau o hanes y bont yn cael eu harddangos yn lleol, yn cynnwys –
- Oriel Ynys Môn
- Amgueddfa Bangor
- Plas Newydd (tudalen Saesneg)
- Arddangosfa'r Pontydd (tudalen Saesneg)