Crefydd
Oddi ar Wicipedia
Cyfundrefn o ffydd ac addoliad neu gred yw crefydd. Bodolasai crefyddau cyn hired a'r hil dynol; nid oes yna adeg a wyddir amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir i bump chweched rhan o boblogaeth y ddaear ystyried ei hun yn grefyddol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cristnogaeth
Gweler hefyd prif erthygl Cristnogaeth.
Mae Cristnogaeth neu Gristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Iesu Grist. Gosodir allan prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Testament Newydd, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Roeg yn wreiddiol ac sy'n rhan, gyda'r Hen Destament Iddewig (ac weithiau'r Apocryffa), y Beibl. Mae'r enw Crist yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos) sy'n golygu "yr Eneiniog".
[golygu] Iddewiaeth
Gweler hefyd prif erthygl Iddewiaeth.
Crefydd undduwiaeth yw Iddewiaeth, â tua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang.
[golygu] Islam
Gweler hefyd prif erthygl Islam.
Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair yw ymostyngiad i ewyllys Duw (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grewyd ganddo. Mae'r gair yn gyfuniad o ddau air, sef salām sy'n golygu "tangnefedd" a'r gair slm sy'n golygu "ymostyngiad." Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw."
[golygu] Siciaeth
Gweler hefyd prif erthygl Siciaeth.
Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Mae'n un o brif grefyddai'r byd gyda dros 23 miliwn o ddilynwyr.
[golygu] Bwdhaeth
Gweler hefyd prif erthygl Bwdhaeth.
Crefydd di-dduw yw Bwdhaeth neu Bwdïaeth. Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, a annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn Crist. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn pump canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny.
[golygu] Hindŵaeth
Gweler hefyd prif erthygl Hindŵaeth.
Hindŵaeth yw crefydd gynhenid is-gyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw.