See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Bwdhaeth - Wicipedia

Bwdhaeth

Oddi ar Wicipedia

Siddhartha Gautama, Y Bwdha.
Siddhartha Gautama, Y Bwdha.

Crefydd di-dduw yw Bwdhaeth neu Bwdïaeth. Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, a annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn crist. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn pump canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny.

Erbyn heddiw, rhennir Bwdhaeth yn dri prif draddodiad: Theravāda, Mahāyāna, a Vajrayāna. Mae'n parhau i atynu dilynwyr led-led y byd, ac yn ôl [1], mae oddeutu 350 miliwn o Fwdhwyr (fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon a geir mewn sawl wlad yn ansicr). Ef yw'r pumed crefydd yn y byd yn ôl niferoedd, ar ôl Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, a chrefydd traddodiadol Tsieiniaidd. Mae'r urdd myneich Sangha ymysg y sefydliadau hynaf ar y ddaear.

Taflen Cynnwys

[golygu] Athrawiaethau

[golygu] Y Pedwar Gwiredd Doeth

Dysgodd y Bwdha fod yna ddioddef mewn bywyd, a achosir gan chwenychu, ac y gellir ei darfod trwy dilyn y Llwybr Wythblyg Doeth (gw. isod):

  1. Dioddef: Dioddef yw genedigaeth, dioddef yw heneiddio, dioddef yw afiechyd, dioddef yw marwolaeth; dioddef yw uno â'r hyn sy'n annymunol; dioddef yw gwahanu o'r hyn sy'n ddymunol; dioddef yw peidio â chael yr hyn a ddymunir; yn gryno, dioddef yw'r pump cyfansawdd sy'n wrthrych ymafael.
  2. Tarddiad dioddef: Y chwenychu sy'n arwain at ail-enidigaeth.
  3. Darfod dioddef: Darfod chwenychu.
  4. Y ffordd sy'n arwain at ddarfod dioddef: Y Llwybr Wythblyg Doeth;

[golygu] Nirfana

Nirfana yw diffodd pob chwenychiad, rhithdyb, ac anwybodaeth.

[golygu] Y Llwybr Wythblyg Doeth

  1. Safbwynt Cyfiawn - Sylweddoli'r Pedwar Gwiredd Doeth
  2. Gwerthoedd Cyfiawn - Ymrwymiad i dyfiant meddyliol a moesol mewn cymedroldeb
  3. Iaith Gyfiawn - Siarad mewn modd di-drais, gan ddweud y gwir, ac heb or-ddweud
  4. Gweithredoedd Cyfiawn - Gweithredu holliach, gan osgoi gweithredoedd a fyddai'n gwneud niwed.
  5. Bywoliaeth Cyfiawn - Gwneud swydd nad yw'n niwedu eich hun neu eraill mewn unrhyw ffordd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
  6. Ymdrech Cyfiawn - Gwneud ymdrech i wella
  7. Gwybodusrwydd Cyfiawn - Y gallu meddyliol i weld pethau fel y maent, gydag ymwybod clir.
  8. Myfyrio Cyfiawn


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -