Heddychaeth
Oddi ar Wicipedia
Egwyddor neu agwedd meddwl yw heddychaeth (neu heddychiaeth) sy'n gwrthod ac yn condemnio rhyfel a grym milwrol dan unrhyw amodau. Enw arall arni yw pasiffistiaeth. Mae rhywun sy'n credu mewn heddychaeth yn heddychwr neu basiffist. Yn hytrach na rhyfela, cred yr heddychwr mai trafod a chyflafaredd yw'r ffordd i ddatrys anghydfod ar bob lefel, boed hynny rhwng gwledydd neu unigolion.