See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Metel - Wicipedia

Metel

Oddi ar Wicipedia

Metel yw un fath o elfen gyda phriodweddau penodol. Maent yn elfennau gydag egnïon ïoneiddiad isel, sy'n eu galluogi i ffurfio catïonau yn hawdd ac yn arwain at fath o fondio a elwir yn fondio metelig. Oherwydd y bondio yn yr elfennau hyn, mae ganddynt briodweddau cyffelyb a nodweddiadol. Er bo anfetelau yn bresennol mewn canranau uwch ar y ddaear, mae dros hanner yr elfennau naturiol yn fetelau. Ar y tabl cyfnodol mae'r metelau ar y chwith gyda llinell igam-ogam yn eu gwahanu'r o'r anfetelau. Mae'r llinell yn rhedeg o foron i boloniwm, gyda'r elfennau o amgylch y llinell yn lled-fetelau.

[golygu] Priodweddau ffisegol

Mae'r metelau yn solidau sgleiniog o dan amodau safonol. Mercwri yw'r unig un nad yw'n solid, gan ei fod yn hylif trwm yn ei gyflwr safonol. Mae'r mwyafrif yn arianaidd o ran eu lliw, ond mae gan rhai ohonynt lliwiau whahanol gyda lliwiau copr ac aur mor nodweddiadol nes bo enw'r metelau yn dod yn enw'r lliw. Maent hefyd yn:

  • Dargludyddion trydanol gyda chopr ac aur ymysg y dargludyddion gorau.
  • Dargludyddion thermol
  • Deunyddiau hydrin, sy'n meddwl bod modd eu ffurfio mewn i siapau penodol trwy eu morthwylio.
  • Deunyddiau hydwyth, sy'n meddwl ei fod yn hawdd i'w tynnu i wifrau.


[golygu] Priodweddau cemegol

Mae metelau yn colli electronau yn hawdd i ffurfio catïonau, felly maent yn adweithio gydag anfetelau i ffurfio cyfansoddion ïonig. Maent yn ffurfio ocsidau basig trwy adweithio gydag ocsigen.

[golygu] Bondio yn yr elfen

Tarddiad y bondio mewn metelau yw eu hegnïon ïoneiddiad isel. Yn yr elfen mae'r atomau yn colli eu helectronau allanol i ffurfio dellten o gatïonau. Mae'r electronau allanol yn ffurfio môr o electronau dadleoledig sy'n rhydd i symud o amgylch yr ïonau positif. Mae hwn yn arwain at sglein a dargludedd yr elfennau. Nid yw'r gymoedd yn gyfeiriadol, felly mae modd newid eu siapau yn hawdd sy'n eu gwneud yn hydrin a hydwyth.

Ar lefel fwy dwfn gellid ddisgrifio metel yn nhermau'r lefelau egni ar gyfer yr electronau dadleoledig. Maent yn ffurfio bandiau o lefelau egni, gyda'r band falens a'r band dargludiad yn or-gyfwrdd. Mae'r broses yn alluogi'r electronau falens i gael eu trosglwyddo i'r band dargludiad lle gellynt symud. Mae'r ddiffiniad hon yn agor y bosibilrwydd o fetelau nad ydynt yn elfennau neu cymysgedd o metelau elfennol (aloi). Mae rhai polimerau organig sydd yn cynnwys electronau dadleoledig yn dangos priodweddau metel a gelwir y rhain yn metelau organig.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -