Toby Petersen
Oddi ar Wicipedia
Cerflunydd o Sanclêr ydy Toby Petersen.
Mae ei dad David Petersen hefyd yn gerflunwr. Enillodd y teulu'r cyfle i greu'r Oleufa Cenedlaethol ar gyfer dathliadau'r Mileniwm.[1] Toby a'i frawd Gideon Petersen ddyluniodd y stamp dosbarth cyntaf gyda'r ddraig arni wedi ei gerfio o ddur gwrthstaen.[2]
Toby greodd y masg ar gyfer gwobr BAFTA Cymru 2007, yn seiliedig ar waith artist Americanaidd, Mitzi Cunliffe.[3]
Toby a Gideon greodd cerflun coffa Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri.[4]