Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant
Oddi ar Wicipedia
Gŵyl flynyddol o gerddoriaeth a diwylliant Celtaidd a gynhelir yn ninas An Oriant (Ffrangeg: Lorient) yn Llydaw yw Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant (Ffrangeg: Festival Interceltique de Lorient; Llydaweg: Gouelioù Etrekeltiek An Oriant). Sefydlwyd yr ŵyl yn 1971.
Cynrychiolir Llydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Ynys Manaw, Ynys Cape Breton, Galicia ac Asturias; felly mae diffiniad yr ŵyl o wlad Geltaidd ychydig yn ehangach na diffiniad yr Undeb Celtaidd er enghraifft. Cynhelir y rhan fwyaf o'r digwyddiadau ynghanol dinas Lorient, gyda'r digwyddiadau mwyaf yn stadiwm clwb peldroed FC Lorient.
Agrorir yr ŵyl gyda'r Kaoteriad, swper bwyd môr traddodiadol Lydewig ac, ar y Sul, mae'r Ormdaith Fawr yn arwain trwy'r ddinas.
Mae 2008 wedi ei dynodi fel "Blwyddyn Cymru". Cynhelir yr ŵyl o 1 Awst hyd 10 Awst 2008 gyda bandiau Cymreig Calan; Carreg Lafar; Clerorfa; Crasdant; Catrin Finch; Ffynnon; Meinir Heulyn; Hen Wlad Fy Mamau; Yr Hwntws, Delyth Jenkins, Bethan Nia; Lleuwen Steffan; MC Mabon; Rag Foundation; a Toreth yn chwarae. Hefyd mae'r Chieftains (Iwerddon); Nolwenn Korbell (Llydaw); Loreena McKennitt (Canada) a Moving Heart (Iwerddon) yn berfformio.
Rhai o'r artistiaid a gymerodd ran yn 2007 oedd: Dan Ar Braz (Llydaw); Capercaillie (Yr Alban); The Dubliners (Iwerddon); Delyth Jenkins (Cymru); Luar na Lubre (Galicia); Y Moniars (Cymru); a Sinéad O'Connor (Iwerddon).