Buchedd Garmon
Oddi ar Wicipedia
Mae Buchedd Garmon yn ddrama radio gan Saunders Lewis, a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 1937, yn adrodd hanes ymweliad Garmon, esgob Auxerre a Phrydain yn 429. Yn ei ragymadrodd i'r ddrama mae Saunders yn ei disgrifio fel 'arbraw mewn vers libre i ddrama siarad naturiol.'
Ysgrifennodd Saunders Lewis y ddrama wedi i'r rheithgor fethu cytuno ar ddedfryd yn ei brawf cyntaf am losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, tra'r oedd yn aros yr ail brawf yn Llundain. Pan ddarlledwyd y ddrama ar 2 Mawrth 1937, roedd yr awdur eisoes yn y carchar.
Mae'r ddrama yn dechrau gyda Illtud a Paulinus yn cyrraedd Auxerre i ofyn i Garmon ddod drosodd i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagiaeth, sy'n cynyddu ym Mhrydain oherwydd dylanwad pregethwr o'r enw Agricola. Cytuna Garmon a Lupus, esgob Troyes, i ddod trosodd. Mae Garmon yn gorchfygu'r Pelagiaid mewn dadl gyhoeddus, ac yn cyflawni gwyrth trwy roi golwg i blentyn dall. Daw'r brenin Emrys Wledig i'w gyfarfod a gofyn am ei gymorth yn erbyn byddin o Bictiaid a Sacsoniaid sy'n ymosod ar ei deyrnas. Dan arweiniad Garmon, enillir buddugoliaeth trwy i'r Brythoniaid weiddi "Haleliwia" a chodi dychryn arnynt.
Y rhan fwyaf adnabyddus o'r ddrama yw geiriau Emrys Wledig wrth ofyn i Garmon am ei gymorth:
- Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad,
- i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant,
- yn dreftadaeth dragwyddol.
- Ac wele'r moch yn rhuthro arni, i'w baeddu.
- Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion,
- y cyffredin a'r ysgolhaig.
- Deuwch ataf i'r adwy: sefwch gyda mi yn y bwlch,
- fel y cedwir i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.
[golygu] Llyfryddiaeth
Cyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Wasg Aberystwyth yn 1937, gyda'r ddrama-gerdd Mair Fadlen.