Prif Weinidog Cymru
Oddi ar Wicipedia
Arweinydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Prif Weinidog Cymru (Saesneg: First Minister for Wales). Pan ffurfiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 Prif Ysgrifennydd Cymru (First Secretary for Wales) oedd teitl y swydd, gan fod Cymru gyda chynulliad llai yn nhermau grymoedd na Gogledd Iwerddon a'r Alban. Hefyd, mae'r term Cymraeg Prif Weinidog yn gallu cyfieithu i'r Saesneg fel Prime Minister, gall wedi achosi camddealltwriaeth â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Newidiwyd y teitl ar ôl ffurfiad llywodraeth glymbleidiol rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur yn y Cynulliad yn Hydref 2000. Yn ôl Mesur Seneddol Llywodraeth Cymru (2006) rhoddir caniatád i'r swydd cael ei hadnabod yn swyddogol fel y Brif Weinidog.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Prif Ysgrifenyddion
Enw | Llun | Dechrau'r Swydd | Gadael y Swydd | Plaid wleidyddol | Llywodraeth | |
---|---|---|---|---|---|---|
Alun Michael | 12 Mai 1999 | 9 Chwefror 2000 | Llafur | Llafur | ||
Rhodri Morgan | 9 Chwefror 2000 (actio) | 16 Hydref 2000 | Llafur | Llafur |
[golygu] Prif Weinidogion
Enw | Llun | Dechrau'r Swydd | Gadael y Swydd | Plaid wleidyddol | Llywodraeth | |
---|---|---|---|---|---|---|
Rhodri Morgan | 16 Hydref, 2000 | 8 Mai, 2003 | Llafur | Clymblaid Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol | ||
Rhodri Morgan | 8 Mai, 2003 | 25 Mai, 2007 | Llafur | Llafur | ||
Rhodri Morgan | 25 Mai, 2007 | 11 Gorffennaf, 2007 | Llafur | Llafur (lleiafrifol) | ||
Rhodri Morgan | 11 Gorffennaf, 2007 | Llafur | Clymblaid Llafur/Plaid Cymru |
[golygu] Dirprwy Brif Weinidogion
Enw | Llun | Dechrau'r Swydd | Gadael y Swydd | Plaid wleidyddol | Llywodraeth | |
---|---|---|---|---|---|---|
Michael German | 16 Hydref 2000 | 6 Gorffennaf 2001 | Y Democratiaid Rhyddfrydol | Clymblaid Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol | ||
Jenny Randerson (actio) | 6 Gorffennaf 2001 | 13 Mehefin 2002 | Y Democratiaid Rhyddfrydol | Clymblaid Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol | ||
Michael German | 13 Mehefin 2002 | 8 Mai 2003 | Y Democratiaid Rhyddfrydol | Clymblaid Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol | ||
Ieuan Wyn Jones | 11 Gorffennaf 2007 | Plaid Cymru | Clymblaid Llafur/Plaid Cymru |