Castell Cilgerran
Oddi ar Wicipedia
Mae Castell Cilgerran yn gastell Normanaidd o'r 13eg ganrif yn Nghilgerran, Sir Benfro, ger Aberteifi.
Saif y castell ar drwyn o graig uwchlaw Afon Teifi. Credir mai castell mwnt a beili a godwyd ar y safle yn wreiddiol tua'r flwyddyn 1100. Mae'r castell carreg presennol yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif. Fe'i lleolwyd yng ngogledd cwmwd Emlyn Is Cuch, cantref Emlyn.
Cysylltir y castell â'r hanes am gipio Nest gwraig Gerallt Windsor gan Owain ap Cadwgan a phymtheg cydymaith ar ŵyl Nadolig 1109. Cyfeirir y croniclau at "Gastell Cenarth Bychan", a chredir mai Cilgerran a olygir.
Yn 1215 cipiwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn ei gyrch yn ne Cymru.
Yn 1223 ail-gipiwyd y castell gan William Marshal, a gododd y castell yn ei ffurf bresennol. Mae'r castell yn adfail heddiw, ond erys dau dŵr sylweddol yn dal i sefyll.
Mewn llecyn prydferth, mae nifer o artistiaid wedi peintio'r castell gan gynnwys Turner.
[golygu] Cadwraeth
Mae'r castell yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, ac yn ngofal Cadw.