Buellt
Oddi ar Wicipedia
- Mae hon yn erthygl am y deyrnas a chantref, am y dref a elwir Builth yn Saesneg (weithiau Buallt yn Gymraeg), gweler Llanfair-ym-Muallt.
Yr oedd Buellt (weithiau Buallt) yn deyrnas gynnar a chantref yn ne canolbarth Cymru (deheubarth Powys heddiw), i'r gogledd o fryniau Eppynt. Ystyr yr enw Buellt yw 'porfa gwartheg'.
Gorweddai Buellt yng ngorllewin y rhanbarth ganoloesol a elwir Rhwng Gwy a Hafren. Roedd y rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn gorwedd ar lannau deheuol Afon Wysg.
Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol rhanwyd cantref Buellt yn bedwar cwmwd, sef :
- Dinan
- Is Irfon
- Penbuellt
- Treflys
Enwir y cymydau hyn ar ôl eu canolfannau lleyg, a safai yn nyffryn Irfon neu'n agos iddo. Yn yr un ardal ceir canolfannau eglwysig y cantref, sef eglwysi Llanafan Fawr a Maesmynis, mam eglwys Buellt.
[golygu] Hanes
Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Ymddengys ei bod yn deyrnas annibynnol yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Tua'r flwyddyn 800, cafodd ei chyplysu â Gwerthrynion gan y brenin Ffernfael. Roedd pendefigion Buellt yn credu eu bod yn ddisgynyddion i'r brenin Gwrtheyrn. Ceir cofnod am hyn yn yr Historia Brittonum gan Nennius. Dyna'r cwbl a wyddys am hanes Buellt cyn diwedd yr 11eg ganrif.
Cipiwyd Buellt yn fuan ar ôl i'r Normaniaid gyrraedd Cymru, tua'r flwyddyn 1095, gan Phillip de Breos (neu Briouze/Brewys), arglwydd Maesyfed. Ond diolch i bolisi Llywelyn Fawr o ymgynghreirio a rhai o arglwyddi'r Mers er mwyn cael mur cyfeillgar rhwng ei deyrnas a theyrnas Lloegr, dychwelwyd Buellt i feddiant y Cymry yn 1229 trwy briodas y Dafydd ap Llywelyn ifanc ag Isabella de Breos. Cafodd ei chipio eto yn 1241 ac am gyfnod byr bu ym meddiant Coron Lloegr, ond wedyn daeth i feddiant teulu Mortimer, Ieirll y Mers.
Erys Buellt yn adnabyddus am bennod dywyll yn hanes Cymru pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ger Cilmeri (Pont Irfon) ym Muellt ar 11 Rhagfyr 1282. Enillodd y traddodiad am frad a chynllwyn yn erbyn y tywysog yr enw "bradwyr Buellt" ar drigolion yr ardal.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
- J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 3ydd arg., 1939)
- J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)