Tir Iarll
Oddi ar Wicipedia
Mae Tir Iarll yn ardal, a fu gynt yn gwmwd, ym Morgannwg sy'n cynnwys plwyfi Llangynwyd, Betws, Cynffig a Margam.
Cafodd yr enw am iddo syrthio i feddiant Iarll Caerloyw yn sgîl Goresgyniad y Norman.
Mae wedi bod yn fagwrfa i feirdd o gyfnod cynnar ac wedi ennill le arbennig iddo'i hun yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r beirdd a gysylltir â Thir Iarll trwy eu genedigaeth neu eu gwaith yn cynnwys Rhys Brydydd, ei fab Rhisiart ap Rhys, Gwilym Tew a fu'n berchen ar Lyfr Aneirin am gyfnod, y pencerdd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565), Siôn Bradford, Dafydd Benwyn ac, yn ddiweddarach, Iolo Morgannwg.
Roedd diwylliant Cymraeg yr ardal yn unigryw. Dyma fro oedd yn enwog am ei chwndidau a'i thribannau. Roedd gan y fro draddodiad llên gwerin cryf. Ym mhlwyf Llangynwyd ("yr henblwyf") y blodeuodd y Fari Lwyd, er enghraifft. Yn Nhir Iarll hefyd y mae Cefn Ydfa, cartref Ann Maddocks, "Y Ferch o Gefn Ydfa".
Mae un o gerddi grymusaf a mwyaf adnabyddus y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn deyrnged i'r Tir Iarll a fu. Dyma ran ohono:
-
- Bu'r hen iaith ar y bryniau hyn
- yn aflonyddu flynyddoedd
- yn ôl, hen iaith
- ein hatgofion ni.
- (Cerddi'r Cywilydd)
[golygu] Llyfryddiaeth
- G.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)