Cymru a'r Ail Ryfel Byd
Oddi ar Wicipedia
O safbwynt Cymry a oedd yn y lluoedd arfog yn colli eu bywydau nid oedd yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru cynddrwg â'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y rhyfel hon lladdwyd rhyw 15,000 ohonynt. Lladdwyd rhyw 40,000 yn y Rhyfel Gyntaf. Ond o safbwynt y bohblogaeth yn gyffredinol yr oedd yn waeth. Lladdwyd 60,000 o Brydeinwyr mewn cyrchoedd awyr tra ychydid dros fil laddwyd felly yn y Rhyfel Gyntaf.
Abertawe a ddioddefodd waethaf. Bu 44 cyrch ar y dref a lladdwyd 369 o bobl yn ystod y Blitz, a 299 yng Nghaerdydd
Roedd Pump catrawd ar yr adeg hwn a chysylltiadau Cymreig sef Y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, Y Gwarchodlu Cymreig, Y Gatrawd Gymreig, Gororwyr De Cymru a Chatrawd Sir Fynwy.