Diwydiant copr Cymru
Oddi ar Wicipedia
Mae hanes diwydiant copr Cymru yn mynd yn ôl i Oes yr Efydd. Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gyda ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, lle roedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth. Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn 1768, pan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yno. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni yn cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael ei yrru o borthladd Amlwch i borthladd Abertawe i'w smeltio, neu weithiau i Swydd Gaerhirfryn. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.
Datblygodd nifer o weithfeydd toddi copr yn ardal Abertawe, Castell-nedd a Llanelli, yn defnyddio'r glo lleol i doddi mwynau o Gernyw a Mynydd Parys. Agorwyd y gwaith copr cyntaf yn Abertawe yn 1717. Sefydlwyd nifer o'r cwmnïau gyda chyfalaf o Gernyw, yn cynnwys y mwyaf, Vivian & Sons. Am gyfnod cafodd Abertawe yr enw Copperopolis, ac roedd yn allforio copr i bob rhan o'r byd. O 1843 ymlaen, dechreuwyd mewnforio mwy o fwyn tramor i Abertawe. Daliodd y diwydiant i dyfu, gan gyrraedd ei anterth rhwng 1860 a 1875. Dirywiodd y diwydiant yma yn ne Cymru yn chwarter olaf y 19eg ganrif, pan adeiladwyd gweithfeydd yn nes at y mwyngloddiau copr.
Roedd hefyd nifer o fwyngloddiau copr yn Eryri, er enghraifft Drws-y-Coed a Sygun, ger Beddgelert, ac yn Nyffryn Conwy. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym Meirionnydd hefyd, e.e. ger Llanfachreth. Un o'r mwyngloddiau yma oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew.
Dirywiodd diwydiant copr Cymru tua chanol y 1850au, gyda'r copr yn rhai o'r cloddfeydd yn darfod a datblygiad mwyngloddiau mewn rhannau eraill o'r byd, yn arbennig yn Chile ac Awstralia. Yn 1914 cloddiwyd tua 1,500 tunnell o gopr yng Nghymru (885 tunnell ohono ym Meirion, 172 yn Sir Gaernarfon). Caewyd Mynydd Parys yn nechrau'r 20fed ganrif, a chaewyd nifer o'r gweithfeydd llai tua'r un adeg. Ail-agorwyd cloddfeydd copr Pen y Gogarth a Sygun yn y blynyddoedd diwethaf fel atyniad i dwristiaid.
[golygu] Llyfryddiaeth
- David E.Bick The old copper mines of Snowdonia (Newent: Pound House, c1982) ISBN 0906885027
- J. R. Harris The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).
- John Rowlands Copper mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966)
- Don Smith The Great Orme copper mines (Llandudno: Creuddyn Publications, 1988)
- Ben Bowen Thomas, Braslun o hanes economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)
[golygu] Cysylltiad allanol
- Lluniau yn ymwneud â diwydiant copr Cymru o "Casglu'r Tlysau" (1)
- Lluniau yn ymwneud â diwydiant copr Cymru o "Casglu'r Tlysau" (2)
|
|
---|---|
Banciau Cymru • Busnes yng Nghymru • Daearyddiaeth economaidd Cymru • Diwydiant Cymru • Hanes economaidd Cymru | |
Diwydiannau | Amaeth • Copr • Glo • Gweithgynhyrchu • Gwlân • Llechi |
Economïau yn ôl lle | Abertawe • Caerdydd • Casnewydd |
Categorïau | Banciau • Busnes • Cwmnïau • Daearyddiaeth economaidd • Diwydiant • Hanes economaidd |