Llanelli
Oddi ar Wicipedia
Ystadegau | |
Poblogaeth | 44,475 (cyfrifiad 2001) |
---|---|
Gweinyddol | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cymunedau Cyngor Lleol |
Cyngor Tref Llanelli Cyngor Gwledig Llanelli |
Swyddfa Post a Ffôn | |
Tref Post | LLANELLI |
Ardal Post | SA14/15 |
Côd Ffôn | +44 -1554 |
Arall | |
Sir Seremonïol | Dyfed |
Heddlu | Heddlu Dyfed-Powys |
Gwleidyddiaeth | |
Etholaeth Senedd y DU |
Llanelli |
Etholaeth Cynulliad Cymru |
Llanelli |
Etholaeth Ewropeaidd |
Cymru |
Aelod Seneddol y DU | Nia Griffith |
Aelod y Cynulliad | Helen Mary Jones |
- Pwnc yr erthygl hon yw tref Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gweler y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.
Llanelli yw tref fwyaf Sir Gaerfyrddin a de orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw ddeuddeng milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw ugain milltir i'r de o Gaerfyrddin. Tyfodd y dref yn y 19eg ganrif o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.
Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynni gan nifer o drefi a phentrefi bach a adweinir fel Llanelli Rural. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Diwydiant
Fe wnaeth Llanelli dyfu yn gyflym yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gyda’r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu plât tun. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel rhanbarthol a chafodd ei henwi'n "Tinopolis." Er i’r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe wnaeth y dref ddioddef o ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, fe welir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth.
[golygu] Yr Iaith Gymraeg
Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.
Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael gan Gyngor Gwledig Llanelli ddarparu papur treth Cymraeg trwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian y dreth. Roedd cyfeillion yn prynu'r celfi er mwyn eu rhoi yn ôl iddynt. Bu rhaid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan wnaeth y cynghorau dderbyn bod rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.
[golygu] Atyniadau Lleol
- Parc Arfordirol y Mileniwm, sy’n rhychwantu 21km (13 milltir) o arfordir rhwng Casllwchwr a Penbre.
- Parc Gwledig Penbre a thraeth Cefn Sidan.
- Tŷ Llanelli, sydd yn un o adeiladau mwyaf hanesyddol Llanelli, enghraifft dda o dŷ tref Sioraidd.
- Castell Cydweli.
- Marina Porth Tywyn.
- Amgueddfa Parc Howard, lle y cedwir casgliad o Grochenwaith Llanelli.
- Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.
[golygu] Chwaraeon
[golygu] Rygbi
Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn gynnar yn yr 1870au ac mae i'r clwb hanes anrhydeddus.
[golygu] Pêl-droed
Mae gan Llanelli dîm pêl-droed o’r enw C.P.D. Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Cymru. Mae nhw’n chwarae ar barc Stebonheath, o dan reolaeth Peter Nicholas.
[golygu] Golff
Mae gan ardal Llanelli dri chwrs golff, yn cynnwys Clwb Golff a Gwledig Machynys sydd yn gartref i Gampwriaeth Merched Ewrop Cymru.
[golygu] Chwaraeon Modur
Gelwir Cylchdaith Penbre (Pembrey Circuit) yn gartref i chwaraeon modur yng Nghymru.
[golygu] Diwylliant
Mae hanes crefydd a'r capeli yn ganolog i hanes diwylliannol Llanelli. Roedd David Rees y Cynhyrfwr yn weinidog yng Nghapel Als, Jiwbili Young yn Seion Llanelli a Gwyndaf yn Tabernacl Llanelli
[golygu] Y Cyfryngau
Mae gan y dref orsaf radio o’r enw Scarlet FM.
Y Llanelli Star yw'r unig bapur wythnosol yn y dref sydd wedi goroesi. Roedd tri yn cael eu cyhoeddi yn y dref ar un adeg gan gynnwys Llanelli Mercury. Yng nghanol y 1970au dechreuwyd cyhoeddi Llanelli News ond ni pharhaodd mwy nag ychydig flynyddoedd.
Mae Llanelli yn gartref i Gwmni Teledu Tinopolis sydd yn un o’r cynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen deledu ‘Wedi 7’ a ddarlledir ar S4C.
[golygu] Theatr a Sinema
Theatr Elli yw’r unig theatr yn y dref, sy’n rhan o ganolfan adloniant Llanelli. Cynhelir nifer o sioeau yn y theatr yn cynnwys nifer o gynyrchiadau cerddorol a dramâu gan grwpiau lleol.
[golygu] Trafnidiaeth
Cysylltir y dref â thraffordd yr M4 gan yr A4138. I gyrraedd y dref oddi ar yr M4 deler oddi arni ar gyffordd 48.
Bws – Mae Llanelli yn cael ei gwasanaethu yn cyson gan wasanaethau bws lleol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.
Lleolir yr orsaf drenau rhyw filltir i’r de o ganol y dref. Mae trenau Llundain i Abergwaun yn mynd drwy'r orsaf hon a hefyd llinell drenau Calon Cymru o Abertawe i'r Amwythig.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Mae tref Llanelli o fewn etholiaeth seneddol Llanelli yn y senedd yn Llundain ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru) sy'n cael eu cynrychioli gan Nia Griffith AS a Catherine Thomas AC y naill y llall.
Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel lleol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar lefel sirol.
Gefeilldref Llanelli yw Agen yn Ffrainc.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Cyngor Tref Llanelli
- Cyngor Gwledig Llanelli
- (Saesneg) Clwb pêl-droed Llanelli
- Cor Meibion Llanelli
- (Saesneg) Bragdy Felinfoel