Afon Lliedi
Oddi ar Wicipedia
Afon fechan yn Sir Gaerfyrddin yw Afon Lliedi. Ei hyd yw tua 6 milltir.
Gorwedd ei tharddle ger pentref Cynheidre ar lethrau Mynydd Sylen yn ne-ddwyrain Sir Gaefyrddin. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y de dros y gwastadeddau gan ffurfio ddau lyn bychan ar ei chwrs. Ar ôl llifo heibio i bentref Felinfoel mae'n cyrraedd harbwr tref Llanelli ac yn aberu yn aber afon Llwchwr, ym Mae Caerfyrddin.