See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Llyn - Wicipedia

Llyn

Oddi ar Wicipedia

Os ydych wedi cyrraedd yma wrth chwilio am y penrhyn a rhanbarth yng ngogledd-orllewin Cymru, gweler Llŷn (gwahaniaethu).

Corff sylweddol o ddŵr sy'n gorwedd mewn pant ar wyneb y tir yw llyn. Fel rheol mae afonydd yn llifo i mewn neu allan o lynnoedd, er bod rhai heb all-lif na mewnlif iddynt.

Mae'r rhan fwyaf o lynnoedd yn llynnoedd dŵr croyw, ond ceir rhai sy'n llynnoedd dŵr hallt, er enghraifft Great Salt Lake yn Utah, UDA.

Mae rhai llynnoedd mawr yn cael eu cyfrif fel moroedd, e.e. Môr Caspia a'r Môr Marw.

Mae rhai llynnoedd yn llynnoedd artiffisial a greir gan amlaf er mwyn cael ffynhonnell dŵr neu ar gyfer cynlluniau trydan dŵr. Gan amlaf fe'i creir trwy godi argae ar afon.

Taflen Cynnwys

[golygu] Llynnoedd nodedig

  • Y llyn mwyaf yn y byd o ran arwynebedd ei wyneb yw Môr Caspia ( 394,299 km²).
  • Y llyn dyfnaf yw Llyn Baikal yn Siberia, gyda dyfnder o 1,637 m (5,371 tr.); dyma lyn dŵr croyw mwyaf y byd o ran maint ei ddŵr.
  • Y llyn hynaf yn y byd yw Llyn Baikal, ac yn nesaf iddo Llyn Tanganyika (rhwng Tanzania, y Congo, Zambia a Burundi).
  • Y llyn uchaf yn y byd yw pwll dienw ar Ojos del Salado at 6390m, [1] ac mae Pwll Lhagba yn Tibet at 6,368 m yn ail.[2]
  • Y llyn uchaf yn y byd y gellir ei fordwyo ar longau masnachol yw Llyn Titicaca yn Bolivia at 3,812 m. Mae hefyd y llyn dŵr croyw mwyaf (a'r ail yn gyffredinol) yn Ne America.
  • Y llyn isaf yn y byd yw'r Môr Marw sy'n ffinio ag Israel, Gwlad Iorddonen a'r Lan Orllewinol at 418 m (1,371 tr) is lefel y môr. Mae hefyd yn un o'r llynnoedd mwyaf hallt yn y byd.
  • Y llyn dŵr croyw mwyaf o ran arwynebedd, a'r trydydd mwyaf o ran maint, yw Llyn Superior gyda arwynebedd o 82,414 km². Fodd bynnag, mae Llyn Huron a Llyn Michigan yn ffurfio un system hydrolegol gydag arwynebedd o 117,350 km², y cyfeirir ato weithiau fel Llyn Michigan-Huron. Mae'r rhain i gyd yn rhan o'r Llynnoedd Mawr yn Ngogledd America.
  • Yr ynys fwyaf mewn llyn dŵr croyw yw Ynys Manitoulin yn Llyn Huron, gyda arwynebedd o 2,766 km². Llyn Manitou, ar yr ynys honno, yw'r llyn mwyaf ar ynys mewn llyn dŵr croyw.
  • Y llyn mwyaf a leolir ar ynys yw Llyn Nettilling ar Ynys Baffin.
  • Y llyn mwyaf yn y byd sy'n draenio'n naturiol i ddau gyfeiriad yw Llyn Wollaston.
  • Lleolir Llyn Toba ar ynys Sumatra ar yr hyn sydd efallai'r caldera atgyfodol mwyaf ar y Ddaear.
  • Y llyn mwyaf o fewn ffiniau unrhyw un ddinas yw Llyn Wanapitei yn ninas Greater Sudbury, Ontario, Canada. Cyn 2001, apn newidwyd y ffiniau, Llyn Ramsey oedd y mwyaf, hefyd yn Sudbury.
  • Llyn Enriquillo yn Ngweriniaeth Dominica yw'r unig llyn dŵr hallt yn y byd lle ceir crocodilod.

[golygu] Y llynnoedd mwyaf (arwynebedd) yn ôl cyfandir

  • Affrica - Llyn Victoria-Nyanza, sydd yn ogystal y llyn dŵr croyw ail fwyaf yn y byd. Mae'n un o Lynnoedd Mawr Affrica.
  • Antarctica - Llyn Vostok (is-rewlifol)
  • Asia - Môr Caspia, sydd yn ogystal y mwyaf ar y Ddaear.
  • Awstralia - Llyn Eyre
  • Ewrop - Llyn Ladoga, yn cael ei dilyn gan Llyn Onega, ill dau yng ngogledd-orllewin Rwsia.
  • Gogledd America - Llyn Superior
  • De America - Llyn Titicaca (mae Llyn Maracaibo yn Venezuela yn fwy ond nis ystyrir yn wir llyn bellach am fod sianel yn ei gysylltu â'r môr).

[golygu] Cyfeiriadau

  1. http://www.andes.org.uk/peak-info-6000/ojos-info.htm
  2. http://www.highestlake.com/

[golygu] Gweler hefyd


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -