Llyn Titicaca
Oddi ar Wicipedia
Titicaca | |
---|---|
Cyfesurynnau | 16°0′De 69°0′Gor |
Math o Lyn | Llyn Mynyddol |
Tarddiadau Cynradd | 27 afon |
All-lifoedd Cynradd | Afon Desaguadero Cyddwysiad |
Dalgylch | 58,000 km² |
Gwledydd Basn | Periw Bolivia |
Hyd Mwyaf | 190 km |
Lled Mwyaf | 80 km |
Arwynebedd | 8,372 km² |
Dyfnder Cyfartalog | 107m |
Dyfnder Mwyaf | 281m |
Cyfaint Dŵr | 893 km³ |
Hyd Glannau1 | 1,125 km |
Dyrchafiad Arwyneb | 3,812m |
Ynysoedd | 42+ ynys |
Treflannau | Puno, Peru Copacabana, Bolivia |
1 Nid yw hyd glannau'n fesuriad fanwl gywir. |
Llyn Titicaca yw'r llyn uchaf sy'n fashnachol mordwyadwy yn a byd. Mae'r llyn 3,812 m (12,507 troedfedd) uwchben lefel y môr ac wedi ei leoli yn uchel yn yr Andes ar a y ffîn rhwng Peru a Bolivia (16°De, 69°Gor). Ei ddyfnder cyfartalog yw 107m, a'i ddyfnder mwyaf yw 281m. Mae ardal gorllewinol y llyn yn berchen i rhanbarth Puno Peru, a mae'r ardal ddwyreiniol yn rhan o adran La Paz Bolivia.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ynysoedd
[golygu] Los Uros
Mae'r ynysoedd Uros yn grŵp o tua 43 ynys artiffisial wedi eu ffurfio'n hollol gan weu cawn sy'n arnofio ar y llyn. Mae'r ynysoedd yn atyniad twristaidd mawr i Peru, gyda nifer fawr o ymwelwyr yn trefnu gwibdeithiau ar gychod o lannau'r llyn i'r ynysoedd yma.
[golygu] Taquile
Mae ynys Taquile yn denu twristiaid bob blwyddyn ar gyfer gwyliau a dathliadau'r brodorion. Mae'r ynys hefyd yn enwog am gynnyrchion tecstiliau y bobl yna. Mae traddodiadau gweu pobl yr ynys wedi deillio o amseroedd gwareidddiad yr Inca (cyn-Sbaenaidd), a gan fod yr ynys wedi aros gan fwyaf yn arwahanol nes yr 1950au, mae nifer fawr o bobl yr ynys yn siarad Quechua, iaith frodorol Peru, yn ogystal â Sbaeneg.
[golygu] Amantaní
Mae Ynys Amantaní yn ynys 15 kilometr sgwâr cylchol gyda tua chwech pentref ar draws yr ynys a dau fynydd. Amantaní yw un o ynysoedd mwyaf Titicaca. Yn debyg i Taquile, bu'r ynys yn arwahanol o'r trefi ar lannau Titicaca nes yr ugeinfed ganrif.
[golygu] Isla Del Sol
Mae Isla Del Sol ("Ynys yr Haul") wedi ei leoli ar ochr Bolivia Titicaca, ger Copacabana. Mae yna nifer o adfeilion Incaidd nodadwy ledled yr ynys, ac felly mae economi'r ynys gan fwyaf wedi ei sefydlu ar dwristiaeth yn ogystal â pysgota.
[golygu] Ffeithiau Ychwanegol
- Mae llynges Bolivia yn defnyddio llyn Titicaca ar gyfer ymarferion llyngesol er nad oes gan Bolivia arfordir.
- Llyn Maracaibo yn Venezuela yw'r unig "llyn" yn Ne America sy'n fwy na Titicaca, ond nid oes consensws fod Maracaibo yn wir llyn, gan fod y dŵr yn rhannol hallt oherwydd cysylltiad i gwlf Venezuela ger Môr y Caribî.