See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Materion cymdeithasol yng Nghymru - Wicipedia

Materion cymdeithasol yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Fel rhan o wladwriaeth y Deyrnas Unedig, mae gan Gymru nifer o'r un materion cymdeithasol cyfoes (gweler materion cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig). Ond mae rhai materion cymdeithasol yng Nghymru yn berthnasol i'r wlad honno yn unig, yn bennaf pynciau llosg annibyniaeth a statws y Gymraeg.

Taflen Cynnwys

[golygu] Annibyniaeth ac ymreolaeth

Yn dilyn tebygolrwydd dyfodiad Gordon Brownn i fod yn Brif Weinidog, ac yntau yn cynrychioli etholaeth yn yr Alban, daeth "chwalu'r Undeb" – pwnc llosg ers blynyddoedd – i sylw unwaith eto ym Mhrydain, gyda chynnydd yng nghenedlaetholdebau Albanaidd a Seisnig. Roedd gan Yr Alban bellach ei senedd ei hun ac yr oedd nifer o'r Saeson ddim yn gweld ei bod yn deg bod Prif Weinidog o'r Alban yn penderfynnu ar bynciau yn Lloegr. O ganlyniad er cadw ei hygrededd gwelwyd Gordon Brown yn pwysleisio Prydeindod fwy ac yn fwy. Er bod arolwg gan ICM yn dweud bod 51% o Albanwyr o blaid annibyniaeth,[1] bu arolwg gan y BBC yn darganfod bod 68% o Gymry dal am fod yn rhan o'r Undeb, gyda dim ond 20% o blaid annibyniaeth.[2] Un o'r ffactorau sydd yn amlwg yn effeithio ar farn pobl yw'r effaith tybiedig gaiff chwalu'r Undeb ar yr economi: credai 48% o'r rhai a holwyd y byddai annibyniaeth yn gwneud Cymru'n dlotach.[2] Ond mae cenedlaetholwyr yn dadlau i'r gwrthwyneb, gan dynnu sylw at ffynniant economaidd Iwerddon a'r ffaith fod llawer o drethi Cymru yn mynd i'r llywodraeth ganolog a bod Fformiwla Barnett, sy'n ail-ddosbarthu rhan o'r incwm hwnnw, yn annheg i Gymru.

[golygu] Statws y Gymraeg

Roedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 fod sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan y sector gyhoeddus, ond dros y blynyddoedd daeth yn fwy fwy amlwg nad oedd y ddeddf yn gweithio a bod nifer o gyrff i bob pwrpas yn ei hanwybyddu. O ganlyniad bu ymgyrchu dros ddeddf iaith newydd i roi statws swyddogol i'r Gymraeg a sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan y sector breifat. Yn bennaf gan Cymdeithas yr Iaith[3] ond hefyd Plaid Cymru a Cymuned. Tan Mai 2007 yr oedd Plaid Cymru, Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Geidwadol o blaid, ond y Blaid Lafur yn erbyn, ond mae'n ymddangos iddi newid ei meddwl ar ôl etholiadau Cynulliad 2007. Yn ddiweddar mae Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, wedi dweud fod ganddo "ddyletswydd cyfreithiol" i hyrwyddo'r Gymraeg ac wedi galw am gryfhau'r Ddeddf bresennol; roedd yn siarad yng nghyfarfod blynyddol Cymuned fel siaradwr gwadd.

[golygu] Materion economaidd

[golygu] Argyfwng tai

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

[golygu] Rhaniad Gogledd-De

Dywedir bod rhaniad Gogledd-De yn bodoli yng Nghymru, ac mae iddi agweddau diwylliannol ac economaidd. O ran yr economi, mae ardaloedd trefol y De (dinasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) yn ffyniannus o gymharu ag ardaloedd gwledig a mynyddig y Gogledd. Ynghŷd â ffactorau diwylliannol y rhaniad – yn bennaf y ffaith bod medr y Gymraeg, hunaniaeth Gymreig a chenedlaetholdeb yn uwch yn y Gogledd nag yn ardaloedd y De (sydd wedi'u Seisnigo mwy yn y mileniwm diwethaf) – mae hyn yn broblem gymdeithasol yn y Gymru fodern.

[golygu] Tlodi

Prif erthygl: Economi Cymru#Tlodi

Er bod Cymru'n wlad gymharol gyfoethog mewn cymhariaeth â'r mwyafrif o wledydd y byd, ond yn un o'r gwledydd tlotaf o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

[golygu] Grwpiau lleiafrifol

[golygu] Hiliaeth

Prif erthygl: Hiliaeth yng Nghymru

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

[golygu] Materion LHDT

Mae agweddau cymdeithasol yng Nghymru tuag at gyfunrywioldeb, deurywioldeb a thrawsrywedd yn weddol ryddfrydol, yn debyg i weddill y Deyrnas Unedig a Gorllewin Ewrop. Er hyn, mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yng Nghymru yn llai parod i dderbyn pobl LHDT na phobl yn rhannau eraill o Brydain.

[golygu] Cyfeiriadau


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -