Cymdeithas yr Iaith
Oddi ar Wicipedia
Mudiad sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg yw Cymdeithas yr Iaith. Sefydlwyd y gymdeithas ar y pedwerydd o Awst 1962 ym Morgannwg.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes y Gymdeithas
Sefydlwyd y Gymdeithas ar 4 Awst, 1962 yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Roedd darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn ysbrydolaeth i sefydlu'r Gymdeithas.
Yn Chwefror 1963 gwelwyd y protestiadau torfol cyntaf pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan, Aberystwyth gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor. Sefydlwyd y gangen gyntaf ym Mangor gan Owain Owain a oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu unig lais y Gymdeithas yn Hydref 1963, sef Tafod y Ddraig.
Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau didrais tebyg i brotestiadau hawliau sifil gogledd America, a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr megis yr arweinydd brwd a'r canwr poblogaidd Dafydd Iwan.
Enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth gan gynnwys Deddf Iaith 1967 a chynhyrchwyd ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus.
Am gyfnod peintiwyd neu ddifrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru.
[golygu] Darlledu
Ar ddechrau'r 1970au dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros wasanaeth darlledu radio a theledu Cymraeg.
Gwrthododd rhai protestwyr â phrynu trwyddedau teledu a bu eraill yn dringo mastiau darlledu ac yn ymyrryd â stiwdios teledu.
Cynyddodd y pwysau ar yr awdurdodau darlledu i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac yn 1977 sefydlwyd Radio Cymru gan y BBC.
Roedd cynlluniau hefyd i sefydlu sianel deledu ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg ond yn 1979 cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol na fyddai'n cadw'r addewid i sefydlu'r fath sianel.
Gan hynny, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n dechrau ymprydio oni fyddai'r Llywodraeth yn anrhydeddu ei haddewid. Achosodd y penderfyniad hwn gryn gynnwrf ac ofnid y gallai arwain at ymgyrchu treisgar.
Yn y pen draw ildiodd y Llywodraeth i'r pwysau a chyhoeddwyd ym mis Medi 1980 y darlledid rhaglenni teledu Cymraeg ar y bedwaredd sianel newydd. Lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) yn 1982.
Erbyn heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am drafodaeth agored ar ddyfodol darlledu a'r cyfryngau newydd yn Gymraeg, a sut gellir sicrhau lle blaenllaw i'r Gymraeg yn y datblygiadau hyn.
Ymysg y pynciau maent yn ymgyrchu amdanynt mae:
- Y trafodaethau ynglyn â dyfodol S4C
- Papur gwyrdd y llywodraeth ar siarter newydd y BBC
- Effaith diffodd signalau teledu analog o fewn tair blynedd
- Cyfleoedd newydd radio a theledu lleol
- Y we a phlatfformiau newydd o gyfathrebu
- Ariannu'r chwyldro digidol yn Gymraeg
- Hybu'r rhithfro
[golygu] Deddf Eiddo
Cred Cymdeithas yr Iaith fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar sefydlu dyfodol i gymunedau lleol ym mhob rhan o Gymru. Credant fod polisiau teg ym maes tai a chynllunio yn gwbwl hanfodol.
Maent yn galw am i'r awdurdodau sicrhau bod gan bobl y gallu i brynu neu rentu tai yn eu cymunedau, ac i beidio â rhoi caniatâd i ddatblygiadau tai a all niweidio'r gymuned leol, yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd naturiol.
Ar ddechrau 2004, cychwynodd Cymdeithas yr Iaith ar flwyddyn o ymgyrchu, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Eiddo i Gymru.
[golygu] Deddf Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am Ddeddf Iaith Newydd i Gymru, a fydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd.
Credant y dylai pethau, megis biliau ffôn neu ffurflen er enghraifft, fod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru. Credant na ddylai siaradwyr Cymraeg orfod mynd allan o'u ffordd i ofyn am wasaneth yn eu hiaith eu hunain, neu fodloni ar ddefnyddio'r Saesneg, gan nad oes gwasaneth Cymraeg ar gael. Dyma paham eu bod yn galw am Deddf Iaith Newydd i sicrhau fod pob math o wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.
Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros Ddeddf Iaith i sicrhau fod pob cyhoeddiad a hysbysiad swyddogol yn dod yn naturiol ddwyieithog heb orfod gofyn. Ar ôl ymgyrchu caled, gorfodwyd y Llywodraeth Geidwadol i ymateb. Serch hynny, cred lawer fod Deddf Iaith 1993 yn rhy wan.
Yn ôl y Ddeddf byddai bwrdd statudol yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r Gymraeg a byddai cyrff cyhoeddus yn gorfod paratoi cynlluniau iaith i ddangos sut yr oeddynt am roi triniaeth deg i'r Gymraeg. Cred y Gymdeithas fod y mesurau hyn yn 'ddi-ddannedd, ddiddim.'
Nid yw Deddf Iaith 1993 yn:
- rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg
- sicrhau gwasaneth Cymraeg gan y sector breifat (cymharwch â Québec, lle mae'r cyfreithiau iaith yn effeithio busnesau preifat hefyd)
- sicrhau lle i'r Gymraeg yn y chwyldro technolegol
[golygu] 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg'
Cyn y 1960au tueddai'r Gymraeg fod yn iaith yr aelwyd a'r capel a phrin oedd y defnydd o'r iaith mewn cylchoedd eraill. Ond gyda'r adfywiad yn y diddordeb yn y Gymraeg a'r ymgyrchu ar ei rhan, gwelwyd cynnydd yn y mudiadau a chymdeithasau a hyd yn oed busnesau a weithredai drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd llawer mwy o lyfrau Cymraeg a sefydlwyd dwsinau o bapurau bro Cymraeg ledled Cymru.
Defnyddiwyd y Gymraeg fwyfwy mewn bywyd cyhoeddus ac yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol a sefydlwyd yn 1999 wedi'i gyfundrefnu i weithredu'n ddwyieithog.