See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Owain Owain - Wicipedia

Owain Owain

Oddi ar Wicipedia

Owain Owain
Owain Owain

Un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith oedd Owain Owain (11 Rhagfyr 1929 [1] ardal Caernarfon - Rhagfyr 1993 ardal Caernarfon[2]); sefydlydd a golygydd cyntaf Tafod y Ddraig. Mae Owain Owain yn llenor a ddiffiniodd, yn Gymraeg, y frwydr dros 'Gyfoeth yr Amrywiaeth' a 'chadwraeth' ac yn erbyn 'y llwydni llwyd' a'r 'Ddelwedd Fawr'.

Rhoddodd ffurf a siap i frwydrau Cymdeithas yr Iaith drwy ei ysgrifau a'i lythyrau ac yn ymarferol drwy greu'r syniad o 'gelloedd' - sy'n dal yn gonglfaen i'r Gymdeithas. Mae'n awdur bron i ugain o lyfrau Cymraeg gan gynnwys erthyglau, nofelau, storiau byrion, cerddi ac yn y blaen, megis Y Dydd Olaf, Amryw Ddarnau, Bara Brith; mae dwy o'i gyfrolau wedi eu gosod ar y wê ers 2000.

Owain Owain oedd y cyntaf i ddatblygu syniadau megis yr ysgol o feddwl ynglŷn â phwysigrwydd 'Y Fro Gymraeg': 'Oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir...,' ysgrifenodd ar y 12 Tachwedd 1964 yn Y Cymro. Flynyddoedd yn ddiweddarach, datblygodd pobl megis yr Athro J. R. Jones ac Emyr Llewelyn y syniadau hyn (gweler Mudiad Adfer). Bu'n un o aelodau gweithgar Undeb y Gymraeg hefyd.

Gwyddonydd niwclear yn y 50au, a fathodd nifer o dermau gwyddonol megis 'Gwennol y Gofod', a chysyniadau / bathiadau gwleidyddol pwysig megis 'Gwledydd Prydain' yn hytrach na 'Phrydain'. Roedd yn golofynydd 'Nodion Gwyddonol' Y Cymro am flynyddoedd gan ysgrifennu'n helaeth yn erbyn gorsafoedd niwclear gan wthio'r Gymraeg (am y tro cyntaf yn aml) i fewn i'r labordy ieithyddol.

Bu hefyd yn ddarlithydd ym Prifysgol Aberystwyth, yn bennaeth Gwersyll Glan-llyn ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd.

[golygu] Dyfyniadau

  • "Proffwyd tanbaid y deffroad iaith yng Nghymru." Emyr Llewelyn, Y Faner Newydd, Rhif 35, Rhagfyr 2005.
  • "Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg." Pennar Davies, 1976.
  • "Ym Mangor, gan Owen Owen (Owain wedyn, fel yr hysbysodd, wedi Calan 1965) a'i gefnogwyr yr oedd yr unig gangen go-iawn. Wedi magu profiad yn herio'r coleg gwrthnysig, aeth ati fel mudiad ynddo'i hun." 1989, Gwilym Tudur, Wyt ti'n Cofio?, (Gwasg Y Lolfa).
  • "Bathwyd y term 'Y Fro Gymraeg' gan Owain Owain, cadeirydd cangen Bangor o'r Gymdeithas yn rhifyn Ionawr 1964 o Tafod y Ddraig, pan gyhoeddodd fap yn dangos dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Mewn sawl erthygl yn y wasg yn yr un flwyddyn pwysleisiodd bwysigrwydd achub yr iaith yn Y Fro Gymraeg: 'oni ennillwn y Fro Gymraeg ac fe enillir Cymru.' (Tudalen 146)... Cydiodd syniad Y Fro Gymraeg yn nychymyg nifer o genedlaetholwyr." Trwy Ddulliau Chwyldro ... ?, Dylan Phillips, 1998.
  • "Arloesol yw'r gair i ddisgifio Owain. Sylweddolodd rym y pethau bychain, a'u rhoi ar waith. Cyn bod sôn am Gymdeithas yr Iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig..." Maldwyn Lewis, Wir yr!, 2006.

[golygu] Dolenni Allanol

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru, Owen Owen, Rhagfyr 1929, Cyfenw Mam cyn priodi: Williams, Ardal Cofrestru: Carnarfon, Rhif Cyfrol: 11b, Tudalen: 542
  2. Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru, Owain Owain, Rhagfyr 1993, Dyddiad Geni: 11 Rhagfyr 1929, Ardal Cofrestru: Carnarfon, Rhif Cofrestr: 40, Rhif Cofnod: 46
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -