Cymry Du
Oddi ar Wicipedia
Yn gyffredinol, Cymry du eu lliw yw'r Cymry Du. Mae'r term yn cynnwys pobl sydd yn enedigol o Gymru sydd â thras neu linach ddu (mae hyn yn cynnwys pobl ddu Affricanaidd, Caribïaidd, ac o rannau eraill y byd, cyn belled â bod llinach Affrica Is-Saharaidd ganddynt yn y pen draw); ac unigolion du sydd wedi ymfudo i Gymru. Mae 0.25% o boblogaeth Cymru yn ddu: 0.13% yn Ddu Affricanaidd, 0.09% yn Ddu Caribïaidd, a 0.03% yn ddu arall. Mae 0.21% o Gymry o dras gymysg gwyn a Du Caribïaidd, a 0.08% o dras gymysg gwyn a Du Affricanaidd.[1] Mae Cymry Du enwog yn cynnwys Shirley Bassey a Colin Jackson.
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Llyfryddiaeth
- Llwyd, Alan. Cymru Ddu: Hanes Pobl Dduon Cymru / Black Wales: a History of Black Welsh People (Hughes & Son, 2005) ISBN 0852843259