Cymry Asiaidd
Oddi ar Wicipedia
Yn gyffredinol, Cymry sydd ag ethnigrwydd Dde Asiaidd (o is-gyfandir India) yw'r Cymry Asiaidd. Mae'r term yn cynnwys pobl sydd yn enedigol o Gymru sydd â thras neu linach Dde Asiaidd (sef Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Sri Lancaidd, neu Nepalaidd); ac unigolion De Asiaidd sydd wedi ymfudo i Gymru. Mae'r term yn eithrio Asiaid Dwyreiniol, a'u elwir yn Gymry Oreintalaidd neu Gymry Dwyreiniol.
Mae 0.88% o boblogaeth Cymru yn Gymry Asiaidd: 0.28% yn Indiaidd, 0.29% yn Bacistanaidd, 0.19% yn Fangladeshaidd, a 0.12% yn Asiaidd arall. Mae 0.17% o Gymry o dras gymysg gwyn ac Asiaidd.[1] Mae Cymry Asiaidd enwog yn cynnwys Mohammad Asghar.