Etholiadau yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Mae gan Gymru etholiadau i bedair haen lywodraethol: 22 o awdurdodau unedol lleol, y Cynulliad Cenedlaethol, Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Ewrop.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Llywodraeth leol
Cynhalir etholiadau i 22 awdurdod unedol lleol Cymru pob pedair mlynedd. Defnyddir y system etholiadol gyntaf i'r felin.
[golygu] Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynhalir etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol pob pedair mlynedd i ethol 60 o Aelodau Cynulliad. Mae gan bledileiswyr ddwy bleidlais: un sy'n dewis 40 o ACau mewn etholaethau unigol trwy'r system gyntaf i'r felin, ac un sy'n dewis 20 o ACau ar gyfer y rhanbarthau (Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru) – etholir pedwar AC, ar sail cyfrannolaeth y bleidlais, ar gyfer pob rhanbarth.
[golygu] Senedd y Deyrnas Unedig
Mae pleidleiswyr yng Nghymru yn ethol 40 o Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin pob pedair mlynedd mewn etholiad cyffredinol Prydeinig.
[golygu] Senedd Ewrop
Mae Cymru yn etholaeth mewn etholiadau Senedd Ewrop.
[golygu] Gweler hefyd
- Etholiadau yn y Deyrnas Unedig
- Etholiadau yn yr Alban
- Etholiadau yng Ngogledd Iwerddon
- Etholiadau yn Lloegr