Seisnigo
Oddi ar Wicipedia
Seisnigo neu Seisnigeiddio yw'r broses o wneud rhywbeth – yn enwedig iaith – yn Seisnig.
[golygu] Seisnigo yng Nghymru
Am ganrifoedd, mae dylanwad Seisnig yng Nghymru wedi arwain at Seisnigo helaeth yn y wlad, yn bennaf y gostyngiad yn siaradwyr yr iaith Gymraeg. Gweler effaith ar eiriau'r Gymraeg gyda thermau a darddir o'r Saesneg yn disodli hen eiriau Cymraeg, e.e. erbyn heddiw, defnyddir yr enw Lerpwl (Cymreigiad o Liverpool) llawer amlach na Llynlleifiad. Yn aml, mae Seisnigo wedi arwain at ymateb eithafol gan rai Gymry, e.e. llosgi tai haf yn y 1980au i atal y llif o Saeson yn ymweld â Chymru ar wyliau.